Thatcher: Ymateb yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidyddion pob plaid yng Nghymru wedi ymateb i farwolaeth Prif Weinidog benywaidd cyntaf Prydain, Margaret Thatcher.
Cyhoeddodd ei llefarydd yr Arglwydd Bell y newyddion bod y Farwnes Thatcher wedi marw yn dilyn strôc fore Llun. Roedd wedi bod yn wael ers tro.
Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew R T Davies ei fod yn "newyddion trist iawn ac yn golled enfawr i bawb.
"Fe wnaeth hi Brydain Fawr yn wych unwaith eto. Roedd hi'n unigryw ymysg gwleidyddion - arweinydd gwych a prif weinidog ardderchog."
'Trawsnewid bywydau'
Pan gafodd darlun tun ohoni ei arddangos yn adeilad y Cynulliad yn 2008 fe ddywedodd AC Plaid Cymru Bethan Jenkins ei fod yn sarhad ar bobl Cymru.
Ond ddydd Llun roedd baneri yn chwifio ar hanner mast y tu allan i'r Senedd, Swyddfa Cymru yn Whitehall a Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd ac mae'r farn amdani yn dal i gyrraedd dau begwn.
Yn 1983 fe arweiniodd y Ceidwadwyr i'w canlyniad gorau erioed mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru, gan gipio 14 o seddau.
Dywedodd Syr Wyn Roberts: "Roedd ganddi feddwl treiddgar dros ben.
"Doedd dim modd celu dim byd oddi wrthi fel Prif Weinidog. Os oeddach chi'n meddwl celu unrhywbeth, yn fan honno y byddai'n cychwyn eich holi.
"Roedd hi'n ddychrynllyd o alluog ac fel Prif Weinidog yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen ym mhob cwr o'i llywodraeth ac yn cadw pawb ar binnau."
Yn annwyl
Roedd hi'n ddewr ac yn benderfynol, meddai, ond yn gallu bod yn annwyl iawn, yn enwedig gyda'r rhai oedd mewn trybini.
"Ond tua diwedd ei chyfnod roedd yn tueddu i weithredu ar ei mympwy ei hun a dyna achos ei dymchwel yn y pendraw.
"Roedd hi'n seneddwraig dda iawn, yn gallu perfformio, gwrando ar ddadleuol, rhywbeth sydd wedi diflannu erbyn hyn ond roedd hi'n credu yn y Senedd a chredu mewn democratiaeth."
Byddai pobl yn ei chofio oherwydd ei dewrder a'i nerth, meddai.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones AS: "Margaret Thatcher oedd y Brydeinwraig fwyaf yn y cyfnod wedi'r rhyfel.
"Mae ei chyfraniad i'n bywyd Prydeinig yn anfesuradwy."
Pan oedd yn iau roedd gan yr AS Alun Cairns boster o Margaret Thatcher ar wal ei lofft.
Dywedodd brynhawn Llun: "Mae hwn yn ddiwrnod trist iawn. Does dim amheuaeth bod y Farwnes Thatcher wedi trawsnewid y modd yr ydym yn byw ein bywydau yn economaidd ac yn gymdeithasol.
"Beth bynnag yw barn pobl am ei chyfnod fel Prif Weinidog a'r newidiadau a gyflwynodd, rhaid iddyn nhw dderbyn na chafodd y newidiadau yna eu gwrthdroi gan lywodraethau Llafur wedyn."
'Dinistriol'
Dywedodd cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan: "Fel person roedd hi fel 'Marmite', ac yng Nghymru fe welwch chi fwy sy'n credu bod ei chyfnod fel prif weinidog yn ddinistriol.
"Mewn ffordd roedd hi'n Brif Weinidog ffodus. Pan oedd arian o olew Môr y Gogledd yn llifo i mewn, roedd ganddi'r fantais o allu torri trethi heb dorri budd-daliadau.
"Roedd hi'n bosib cynnig budd-daliadau diweithdra cymharol hael a thorri trethi yr un pryd."
Roedd y cyn Aelod Seneddol Llafur Kim Howells yn swyddog gydag Undeb y Glowyr yn ystod cyfnod y Streic Fawr yn y 1980au.
Ei ymateb cyntaf wedi clywed am farwolaeth y Farwnes Thatcher oedd: "Roedd hi'n fenyw hynod - yn wahanol i'r mwyafrif o wleidyddion, roedd ganddi agenda ac fe lwyddodd i'w chyflawni.
"Roedd hi'n un oedd yn peri rhwyg, ond fe newidiodd y wlad. Fe greodd y rhwyg cyntaf yn y consensws wedi'r rhyfel ond fe allai fod wedi gwneud hynny mewn ffordd lai rhwygol."
Dywedodd y cyn arweinydd Llafur, yr Arglwydd Kinnock: "Rwy'n cydnabod ac yn edmygu rhagoriaeth y Farwnes Thatcher fel y fenyw gyntaf i fod yn arweinydd un o brif bleidiau gwleidyddol y DU ac yn Brif Weinidog.
"Mae'n ddrwg gen i glywed am ei marwolaeth, ac rwy'n estyn fy nghydymdeimlad i'w theulu."
'Gwleidydd aruthrol'
Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, dywedodd eu harweinydd Kirsty Williams ar wefan Twitter: "Rwy'n meddwl am deulu Mrs Thatcher.
"Anaml iawn y byddwn yn cytuno gyda'i gwleidyddiaeth hi, ond roedd yn wleidydd aruthrol ac yn fenyw gref iawn."
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, y cyn Brif Weinidog "ddylanwadodd ar dirlun gwleidyddol am dros ugain mlynedd".
"Mae hyn yn gyflawniad yn ei hun, beth bynnag yw'ch safbwynt am ei gwleidyddiaeth," meddai.
"Mae'n briodol i ni roi gwleidyddiaeth o'r neilltu mewn cyfnod o dristwch mawr i'r teulu Thatcher. Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad gyda nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013