Edrych yn ôl ar fywyd Margaret Thatcher
- Cyhoeddwyd
Roedd Margaret Thatcher yn un o wleidyddion mwyaf dylanwadol yr 20fed Ganrif.
Bu ei dylanwad yn amlwg ar ei holynwyr, Ceidwadol a Llafur.
Yn ystod ei chyfnod fel Prif Weinidog, prynodd miloedd o bobl eu tai cyngor, a chyfranddaliadau mewn cwmnïau fel Nwy Prydain a BT wrth i'r cyfleustodau gael eu preifateiddio.
Ond roedd yna gryn wrthwynebiad i'w pholisïau a'i harddull hefyd, gan arwain yn y pendraw at densiynau o fewn ei phlaid ac ar y strydoedd.
Ganed Margaret Hilda Roberts yn 1925 yn Grantham, Swydd Lincoln, yn ferch i'r groser Alfred Roberts a'i wraig Beatrice.
Bu ei thad, gwleidydd lleol a phregethwr lleyg gyda'r Methodistiaid, yn ddylanwad mawr arni.
Cemeg oedd ei phwnc yng Ngholeg Somerville, Rhydychen.
Wedi graddio gweithiodd fel gwyddonydd ymchwil yn Colchester.
Bu'n ymgeisydd i'r Ceidwadwyr yn Dartford yn etholiadau cyffredinol 1950 a 1951.
Er na wnaeth hi ennill, gwnaeth dolc ym mwyafrif Llafur yn yr etholaeth, ac fe ddenodd ei hymgyrch yno gryn sylw oherwydd ei bod yn 25 oed.
Ym 1951 fe briododd â'r gŵr busnes Denis Thatcher a dechreuodd astudio i fod yn fargyfreithiwr.
Cymhwysodd ym 1953, ac fe aned ei hefeilliaid Mark a Carol yn yr un flwyddyn.
Yn 1959 fe enillodd sedd Finchley.
Ysgrifennydd Addysg
Yn fuan iawn ar ôl cyrraedd Tŷ'r Cyffredin, cafodd ei phenodi yn is-weinidog pensiwn yn llywodraeth Harold Macmillan ac yno y bu o 1961-3.
Collodd y Ceidwadwyr etholiad cyffredinol 1964, ac yn 1967 ymunodd â chabinet yr wrthblaid.
Wedi llwyddiant y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 1970 cafodd ddyrchafiad i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Addysg a Gwyddoniaeth a bu yn y swydd nes i'r blaid gael ei threchu yn etholiad cyffredinol Chwefror 1974.
Hi oedd llefarydd yr amgylchedd yng nghabinet yr wrthblaid, ond oherwydd ei gwrthwynebiad i bolisïau economaidd Edward Heath, safodd yn ei erbyn ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr.
Curodd Heath yn y rownd gyntaf, a William Whitelaw yn yr ail, ac yn fuan iawn dechreuodd wneud ei marc fel arweinydd benywaidd cyntaf un o'r prif bleidiau yn San Steffan.
Roedd yn groch iawn ynghylch effaith chwyddiant ar deuluoedd cyffredin ac fe heriodd rym yr undebau llafur mewn cyfnod pan oedd gweithredu diwydiannol yn gyffredin.
Wrth i lywodraeth James Callaghan simsanu, roedd ei hagwedd yn denu pleidleiswyr ac enillodd yr etholiad cyffredinol ym 1979.
Hi felly oedd Prif Weinidog benywaidd cyntaf Ewrop a hynny bedair blynedd yn unig ar ôl cymryd awenau ei phlaid.
'Ddim am droi'
Wrth ddod i rym yn 1979, cwtogi chwyddiant oedd prif addewid y llywodraeth ac yn fuan iawn cyhoeddwyd newidiadau radical i drethi a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus.
Daeth polisïau ariannol â chyfnod o lewyrch i'r ddinas yn Llundain, ond crebachodd y diwydiannau gweithgynhyrchu, ac fe gododd nifer y di-waith i dros 3 miliwn.
Bu terfysg mewn rhai dinasoedd, a daeth dan bwysau gan rai o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr i newid cyfeiriad ond roedd Mrs Thatcher yn gwbl benderfynol, serch amhoblogaidd.
Dywedodd wrth gynhadledd ei phlaid yn 1980, "You turn if you want to, the lady's not for turning".
Wynebodd Mrs Thatcher sefyllfa anodd arall yn ystod haf 1980 pan gyhoeddodd Gwynfor Evans, llywydd Plaid Cymru y byddai'n ymprydio hyd at farwolaeth pe na bai'r Ceidwadwyr yn cadw at eu gair ac yn sefydlu sianel deledu Gymraeg.
Gwelodd haf 1980 brotestiadau mawrion ar draws Cymru o blaid ymgyrch y sianel.
Ym mis Medi 1980 bu'n rhaid i'r "ddynes haearn" ildio.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref, William Whitelaw, y byddai'r llywodraeth yn dychwelyd at ei haddewid gwreiddiol ac yn sefydlu sianel Gymraeg - fel cynllun prawf am dair blynedd yn unig i ddechrau.
Dechreuodd yr economi gryfhau yn 1982, a daeth hwb pellach i'w phoblogrwydd yn sgil ei hymateb pan feddiannodd Yr Ariannin Ynysoedd Falkland yn Ebrill 1982.
Anfonwyd lluoedd i adfeddiannu'r ynysoedd, ac ildiodd Yr Ariannin ym mis Mehefin.
Oherwydd y fuddugoliaeth yn Ynysoedd Falkland, ac anhrefn yn y Blaid Lafur, cynyddodd ei mwyafrif yn etholiad cyffredinol 1983.
Y gwanwyn canlynol, galwodd undeb glowyr yr NUM streic genedlaethol ond roedd y llywodraeth wedi sicrhau bod yna gyflenwadau sylweddol o lo yn y pwerdai ac unwaith eto, roedd Mrs Thatcher yn benderfynol.
Bu gwrthdaro rhwng picedwyr a phlismyn, ond daeth y streic i ben ym mis Mawrth 1985, gan adael ei ôl ar nifer o gymunedau glofaol, gan gynnwys yn ne Cymru.
IRA
Yng Ngogledd Iwerddon aeth carcharorion yr IRA ar streic newyn ac fe gythruddwyd nifer gan ei hagwedd ddigyfaddawd.
Er iddi geisio mynd i'r afael â thensiynau sectyddol, gan gynnig rôl i Weriniaeth Iwerddon, methodd yr ymdrechion hynny oherwydd gwrthwynebiad yr unoliaethwyr.
Ym mis Hydref 1984, ffrwydrodd bom yr IRA mewn gwesty yn Brighton ble roedd y Ceidwadwyr yn cynnal eu cynhadledd flynyddol.
Cafodd pedwar eu lladd ac anafwyd nifer, gan gynnwys Norman Tebbit, a oedd yn Ysgrifennydd Masnach a Diwydiant ar y pryd, yn ddifrifol.
Mynnodd Mrs Thatcher fod y gynhadledd yn mynd yn ei blaen.
Wedi iddi drechu'r Blaid Lafur dan arweiniad Neil Kinnock yn etholiad cyffredinol 1987, cyflwynwyd treth y pen, oedd yn seiliedig ar unigolion yn hytrach na gwerth eu heiddo.
Bu gwrthdaro ar y strydoedd, a dechreuodd rhai ASau Ceidwadol feddwl na fyddai modd diosg y polisi heb newid arweinydd.
Goroesodd Mrs Thatcher her i'w harweinyddiaeth yn 1989, ond roedd yr her yn adlewyrchu anfodlonrwydd cynyddol ymysg ASau Ceidwadol ynghylch ei pholisïau.
Diwedd cyfnod
Ewrop oedd y pwnc a ddiweddodd ei harweinyddiaeth yn y pendraw.
Wedi iddi ddychwelyd o uwch gynhadledd yn Rhufain, siaradodd yn gryf yn erbyn rhai o arweinwyr eraill Ewrop, gan wrthod ystyried cynyddu grym y Gymuned Ewropeaidd.
Ymddiswyddodd Geoffrey Howe o'r cabinet gan wneud araith fu'n hynod niweidiol i'r Prif Weinidog.
Y diwrnod canlynol cyhoeddodd Michael Heseltine ei fod am ei herio am yr arweinyddiaeth.
Yn y bleidlais a ddilynodd, roedd hi ddwy bleidlais yn brin o'r trothwy fyddai wedi golygu nad oedd angen ail rownd.
Dywedodd ei bod yn benderfynol o barhau a'i brwydr.
Ond fe'i rhybuddiwyd gan gyd-weithwyr y byddai'n colli ac fe gyhoeddodd ei hymddiswyddiad yn y cyfarfod nesaf o'r cabinet.
Cafodd John Major ei ethol yn olynydd iddi ac fe ddychwelodd Mrs Thatcher i'r meinciau cefn.
Doedd hi ddim yn ymgeisydd yn etholiad cyffredinol 1992 pan enillodd y Ceidwadwyr unwaith eto, yn groes i ddisgwyliadau'r mwyafrif.
Fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi fel y Farwnes Thatcher o Kesteven yn Swydd Lincoln.
'Ei chraig'
Cyhoeddodd ddwy gyfrol hunangofiannol, The Downing Street Years a The Path to Power, ac fe barhaodd yn weithgar ym myd gwleidyddol gan ymgyrchu yn erbyn cytundeb Maastricht a chondemnio gweithredoedd Serbaidd yn Bosnia.
Cefnogodd William Hague yn yr etholiad i ddewis arweinydd newydd i'r blaid geidwadol yn 1997, ond wnaeth hi ddim cefnogi ei olynydd yntau Iain Duncan Smith.
Yn 2001 dechreuodd ei hiechyd ddirywio ac fe rodd y gorau i siarad yn gyhoeddus.
Dwy flynedd yn ddiweddarach bu farw ei gwr Denis yn 88 oed.Cafodd ei ddisgrifio ganddi fel "ei chraig".
Yn 2008 fe wnaeth ei merch Carol ddatgelu ei bod yn diodde' o ddementia.
Dadorchuddiodd gerflun efydd o'i hun yn San Steffan yn 2007, y tro cyntaf i gyn-Brif Weinidog byw gael ei chofio yn y modd yma.
Dychwelodd i Stryd Downing fel un o westeion Gordon Brown ac yna yn 2010 wedi i David Cameron gael ei benodi yn Brif Weinidog.
Yn 2011, fe gafodd y ffilm The Iron Lady ei rhyddhau ac fe'i portreadwyd gan Meryl Streep a'r Gymraes Alex Roach.
Gwaddol
Prin yw'r gwleidyddion sydd wedi bod mor ddylanwadol, ac wedi ennyn y fath deimladau cryfion, cadarnhaol a negyddol.
I'w gwrthwynebwyr, hi oedd y gwleidydd roddodd flaenoriaeth i'r farchnad rydd uwchlaw popeth arall ac a oedd yn barod i ganiatáu i eraill dalu'r pris am ei pholisïau, o ran diweithdra a thensiynau cymdeithasol.
I'w chefnogwyr, mae'n haeddu canmoliaeth am leihau rôl y wladwriaeth a dylanwad yr undebau llafur, ac am sicrhau statws Prydain ar y llwyfan rhyngwladol.
Byddai'r ddwy garfan yn cytuno iddi newid cwrs hanes Prydain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2011