Maldwyn y gwalch yn dychwelyd i'w nyth yn Nyffryn Dyfi

  • Cyhoeddwyd
Maldwyn y GwalchFfynhonnell y llun, Dyfi Osprey Project
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maldwyn yn aros i'w bartner Nora ddychwelyd o Affrica

Mae gwalch sy'n enwog ar ôl ymddangosiad ar raglen Springwatch y BBC yn 2012 wedi dychwelyd i ganolbarth Cymru ac yn aros i'w bartner, Nora i ddod yn ôl o Affrica.

Mae Maldwyn y gwalch wedi bod yn glanhau'r nyth y mae'r ddau yn ei rannu ym Mhrosiect Gweilch Dyfi ger Machynlleth ym Mhowys.

Mae Maldwyn a Nora eisoes wedi cael pedwar o gywion yn Nyffryn Dyfi yn ystod ddwy flynedd ddiwethaf.

Tywydd gwael

Dywedodd warden Prosiect y Gweilch, Emyr Evans; "Mae'r gwynt yn ffafriol o ran helpu adar i fudo felly mae'n bosib fod Nora ar ei ffordd yn ôl i Gymru."

Fe ddaeth Maldwyn a Nora'n enwog yr haf diwethaf wrth i wylwyr rhaglen Springwatch ddilyn ymdrechion eu cywion i oroesi yn ystod y tywydd gwael.

Bu farw un cyw yn ifanc ac mae swyddogion Prosiect y Gweilch wedi colli cysylltiad â dau gyw arall wnaeth fudo i Affrica ddiwedd yr haf.

Mae wardeiniaid y prosiect yn gobeithio y bydd cyw cyntaf Maldwyn a Nora, Einion, yn dychwelyd i'r ardal yn ystod y gwanwyn.

Dyfarnwyd grant loteri o £928,000 i'r prosiect ym mis Medi'r llynedd.

Mae'r arian yn cael ei wario ar arsyllfa newydd, nifer o gamerâu i wylio'r gweilch, ac ymdrechion i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr yn y ganolfan i 250.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol