Caerdydd yn cyrraedd yr Uwchgynghrair
- Cyhoeddwyd
Caerdydd 0-0 Charlton
Mae Caerdydd wedi ennill dyrchafiad i'r brif adran y tymor nesaf i herio Manchester United, Lerpwl, Chelsea....ac wrth gwrs Abertawe.
Roedd angen pwynt ar yr Adar Gleision gartre' nos Fawrth yn erbyn Charlton cyn cael dyrchafiad i'r Uwchgynghrair, a phwynt euraidd a gafwyd o flaen dros 26,000 o ffyddloniaid.
Dyw tîm y brifddinas ddim wedi bod yn yr Uwchgynghrair am 51 o flynyddoedd.
Roedd Charlton yn y nawfed safle cyn nos Fawrth ac wedi trechu Barnsley 6-0 yn eu gêm ddiwethaf, ond roedd yr Adar Gleision - oedd heb y blaenwyr Heidar Helguson a Fraizer Campbell a'r amddiffynwr Matt Connolly - yn edrych yn ddigon cyfforddus yn eu herbyn.
Ergyd gan Craig Bellamy, a sleifiodd heibio'r postyn, oedd yr agosaf y daeth Caerdydd i sgorio, cyn i Kim Bo-Kyung wastraffu cyfle da.
Cafwyd arbediad gwych gan David Marshall i rwystro Ricardo Fuller o Charlton cyn i Craig Noone feddwl ei fod yntau wedi sgorio cyn i'r llumanwr nodi ei fod yn cam-sefyll.
'Aros yn ffyddlon'
Mae'r clwb wedi bod o fewn trwch blewyn i ennill dyrchafiad i'r uwchgynghrair yn ystod y pedair blynedd diwethaf, gan golli tair gwaith mewn gemau ail gyfle.
Ond y tro hwn, dan arweiniad Malky Mackay, maen nhw wedi bod ar frig yr adran ers Tachwedd 24 ac wedi cael eu dyrchafu gyda thair gêm i'w chwarae eto.
Mae Malky Mackay wedi diolch i'r cefnogwyr am "aros yn ffyddlon yn ystod y flwyddyn" wedi newidiadau dadleuol, gan gynnwys newid lliw crysau'r clwb.
"Nid yn unig maen nhw wedi teithio yn eu niferoedd i gemau oddi cartre' ond maen nhw wedi creu awyrgylch drydanol yn y gemau cartre'."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013