Y frech goch: Cyfanswm o 808
- Cyhoeddwyd

Ddydd Sadwrn bydd sesiynau galw heibio yn Ysbyty Treforys, Ysbyty Singleton, Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont, ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Mae rhieni plant rhwng 10 a 18 oed yn cael eu hannog i drefnu brechiadau MMR ar frys gan fod 808 o achosion y frech goch.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi cael gwybod am 43 o achosion ychwanegol ers dydd Mawrth.
Mae 77 wedi bod yn yr ysbyty ers i'r gyfres o achosion ddechrau.
Er bod y gyfres o achosion yn effeithio ar ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda, mae 'na achosion ymhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru.
Dywedodd Dr Marion Lyons, y Cyfarwyddwr Amddiffyn Iechyd: "Rydym yn dal i gynnig cyfleoedd heb eu tebyg i rieni frechu eu plant ond dylai rhieni sicrhau eu bod yn achub y cyfle.
'Pa mor ddiogel'
"... rydym yn poeni yn benodol am blant a phobl ifanc rhwng 10 ac 18.
"Dyma'r rhai na chafodd eu brechu am fod eu rhieni'n poeni am ba mor ddiogel oedd MMR yn y nawdegau.
"Mae'r brechiad yn ddiogel, yn effeithiol a hwn yw'r unig amddiffyniad yn erbyn clefyd allai fod yn farwol.
"Does dim modd dod â'r gyfres o achosion i ben os nad yw rhieni'n trefnu brechu eu plant gyda'r meddyg teulu neu'n galw i mewn i'r sesiynau penwythnos neu'n llofnodi ffurflen ganiatáu os yw'r plentyn yn cael ei frechu yn yr ysgol."
Dywedodd Sarah Hayes, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, fod nifer y rhai oedd wedi cael brechiadau mewn ysgolion yn "siomedig," rhwng 30 a 40%.
Bydd nyrsys yn brechu ddydd Mercher, Iau a Gwener, mewn ysgolion sydd â'r niferoedd uchaf o ddisgyblion mewn perygl o ddal y frech goch oherwydd eu bod heb gael eu brechu neu ond wedi cael un pigiad MMR yn lle dau.
Sesiynau galw heibio
Ddydd Iau mae nyrsys yn brechu yn Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, Abertawe ble mae 527 o ddisgyblion sydd mewn perygl o ddal y frech goch, ac Ysgol Gyfun yr Esgob Gore, Abertawe, ble mae 488 mewn perygl.
Hefyd ddydd Iau mae brechiadau yn Ysgol Gyfun Treforys.
Ddydd Gwener fe fydd brechiadau yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe.
Ddydd Sadwrn bydd sesiynau galw heibio yn Ysbyty Treforys, Ysbyty Singleton, Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont, ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2013