Y frech goch: Ymgyrch frechu i ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Queue outside MMR clinic in Bridgend
Disgrifiad o’r llun,

Bu pobl yn ciwio am glinigau arbennig i gael brechiad dros y penwythnos

Gallai tua 2,000 o ddisgyblion gael y brechiad MMR mewn ysgolion yn ardal Abertawe mewn ymgais i atal ymlediad y frech goch.

Bydd pedair ysgol uwchradd yn y ddinas ac yn yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnal sesiynau brechu i blant rhwng 11 a 18 oed sydd heb gael y brechiad.

Dywedodd arbenigwyr iechyd eu bod yn bryderus am nifer y plant hŷn sydd heb gael eu brechu ac y bydden nhw'n anfon llythyrau at rieni plant cyn i'r rhaglen frechu ddechrau ddydd Mercher.

Mae 693 o bobl wedi cael y frech goch, ac er bod y mwyafrif yn ardal Abertawe mae pryderon y gallai'r haint ymledu i rannau eraill o Gymru.

Mewn clinigau arbennig a gynhaliwyd dros y penwythnos yn ardaloedd tri bwrdd iechyd, fe gafodd cyfanswm o tua 2,500 o bobl eu brechu yn erbyn y frech goch. Roedd hynny'n dilyn 1,700 o frechiadau dros y penwythnos blaenorol.

Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod tua 40,000 o blant yng Nghymru sydd heb gael y brechiad MMR.

Pum ysgol

Bydd y rhaglen frechu yn dechrau mewn pum ysgol wrth i ddisgyblion ddychwelyd wedi gwyliau'r Pasg.

Mae'r bwrdd iechyd wedi creu gwefannau unigol i'r ysgolion dan sylw fel y gall rhieni lawrlwytho gwybodaeth am y brechiad a ffurflenni caniatâd i'w plant i gael y brechiad:-

Er bod mwyafrif yr achosion o'r frech goch yn ardal Abertawe, mae swyddogion iechyd yn bryderus y gallai'r haint ymledu i rannau eraill o Gymru ac mae nifer o achosion wedi dod i'r amlwg eisoes ym Mhowys.

Dywedodd Dr Meirion Evans, o ICC, y gallai nifer yr achosion "ddyblu'n hawdd", ac nid yw ICC yn disgwyl y bydd nifer yr achosion yn cyrraedd ei frig am bedair wythnos arall.

Ar raglen y Post Cynta' fore Llun cyfeiriodd Dr Evans hefyd at y perygl y gallai'r haint ledu i ardaloedd eraill yng Nghymru.

"'Dan ni'n pwysleisio bod hi byth yn rhy hwyr i frechu'ch plant â'r MMR - 'dan ni'n ymwybodol fod nifer fawr o blant - yn arbennig y rhai sydd yn yr ysgol uwchradd nawr - erioed wedi cael yr MMR.

"Nawr yw'r amser gorau i sicrhau eu bod nhw wedi'u brechu."

'Cynnydd sylweddol'

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud bod "cynnydd sylweddol" yn nifer y brechiadau'n erbyn y frech goch yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gâr.

Yn y saith diwrnod diwethaf, meddai, mae 'na gynnydd o 130% yn Sir Gâr o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Er hynny, mae'r bwrdd iechyd wedi pwysleisio bod rhaid i'r nifer barhau i gynyddu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol