Rhybudd gweinidog am gynnydd mewn achosion o'r frech goch
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford nad oedd yr achosion wedi cyrraedd y brig eto
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio rhieni i frechu eu plant wrth i nifer achosion y frech goch yn ardal Abertawe godi i 765.
Dywedodd y corff fod 72 o achosion ychwanegol wedi bod ers dydd Iau.
Ers dechrau'r cyfres o achosion, medden nhw, mae 77 o bobl wedi bod yn yr ysbyty.
Dywedodd Dr Marion Lyons, y Cyfarwyddwr Amddiffyn Iechyd: "Mae digon o gyfleoedd i rieni frechu eu plant ond dylai rhieni sicrhau eu bod yn achub y cyfleoedd.
"Does dim modd dod â'r gyfres o achosion i ben os nad yw rhieni'n trefnu brechu eu plant gyda'r meddyg teulu neu'n galw i mewn i'r sesiynau penwythnos neu'n llofnodi ffurflen ganiatáu os yw'r plentyn yn cael ei frechu yn yr ysgol."
'Ymhob bwrdd iechyd'
Er bod y clefyd yn effeithio ar blant o bob oedran, dywedodd eu bod yn poeni'n benodol am y rhai rhwng 10 ac 18.
"Ac er bod y gyfres o achosion yn effeithio ar fyrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda, mae 'na achosion ymhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
"Does dim modd i ni ddweud lle y bydd y gyfres o achosion yn lledu."
Ynghynt rhybuddiodd Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford, y byddai'r achosion yn ardal Abertawe yn parhau i godi am wythnosau.
Dywedodd mai'r unig ffordd i atal yr haint rhag lledu oedd sicrhau fod pobl yn cael y brechiad MMR.
Yn ôl Mr Drakeford, mae Llywodraeth Cymru'n ymwybodol nad yw'r achosion "wedi cyrraedd y brig eto".
Amddiffyn
Dywedodd y gweinidog, sydd wedi ysgrifennu at ACau, ASau a byrddau iechyd: "Yr unig ffordd i atal hyn yw sicrhau fod cynifer o bobl â phosib yn cael y brechiad MMR i amddiffyn eu hunain, eu plant, aelodau o'u teuluoedd ac eraill yn y gymuned allai fod mewn peryg am wahanol resymau."
Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn dechrau cynllun brechu yn ysgolion yr ardal yr wythnos hon.
Bydd byrddau iechyd eraill yn cynnig clinigau arbennig i dargedu ysgolion ble mae nifer isel o blant wedi'u brechu.
Mewn clinigau arbennig a gynhaliwyd dros y penwythnos yn ardaloedd tri bwrdd iechyd, fe gafodd cyfanswm o tua 2,500 o bobl eu brechu yn erbyn y frech goch. Roedd hynny'n dilyn 1,700 o frechiadau dros y penwythnos blaenorol.
Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod tua 40,000 o blant yng Nghymru sydd heb gael y brechiad MMR.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013