Frech goch: Dechrau cynllun brechu mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
ChwistrelliadFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford nad oedd nifer yr achosion wedi cyrraedd eu hanterth

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn dechrau cynllun brechu yn ysgolion yr ardal ddydd Mercher.

Bydd nyrsys yn brechu ddydd Mercher, Iau a Gwener, mewn ysgolion sydd â'r niferoedd uchaf o ddisgyblion sydd mewn perygl o ddal y frech goch oherwydd eu bod heb gael eu brechu neu dim ond wedi cael un pigiad MMR yn hytrach na dau.

Ddydd Mercher a dydd Iau fe fydd nyrsys yn brechu yn Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, Abertawe, ble mae 527 o ddisgyblion sydd mewn perygl o ddal y frech goch, ac Ysgol Gyfun yr Esgob Gore, Abertawe, ble mae 488 mewn perygl.

Ddydd Mercher yn unig fe fydd brechiadau yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, Abertawe, gyda 446 disgybl mewn perygl.

Ddydd Iau fe fydd brechiadau yn Ysgol Gyfun Treforys, ac yna ddydd Gwener fe fydd brechiadau yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe.

765

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori rhieni i frechu eu plant wrth i nifer achosion y frech goch yn ardal Abertawe godi i 765.

Dywedodd y corff fod 72 o achosion ychwanegol wedi eu cofnodi ers dydd Iau. Ers mis Tachwedd y llynedd, medden nhw, mae 77 o bobl wedi bod yn yr ysbyty.

Mae'r gweinidog iechyd yn annog holl rieni Cymru i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu yn erbyn y frech goch.

Wrth ateb cwestiwn brys gan aelod Dwyrain Abertawe Mike Hedges yn y Cynulliad ddydd Mawrth, dywedodd Mark Drakeford mai "dyma'r amser" i rieni frechu eu plant.

"Mae hynny'n wir nid dim ond am Abertawe a'r cyffiniau, ond hefyd am rannau eraill o Gymru," meddai.

Tachwedd 2012

Gofynnodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar, a oedd unrhyw wirionedd i'r si bod y llywodraeth wedi bod yn araf yn ymateb i atal yr haint rhag lledaenu, ond gwadodd y gweinidog yr honiadau yn llwyr.

Dywedodd bod yr achosion cyntaf o'r haint wedi dod i'r amlwg fis Tachwedd 2012 ac y penderfynwyd annog rhieni i frechu eu plant.

Yn anffodus, meddai, ddigwyddodd hynny ddim ar raddfa fawr.

Sefydlodd Iechyd Cyhoeddus Cymru dîm i ymateb i'r sefyllfa fis Chwefror, ac maen nhw'n dal i gyfarfod yn rheolaidd i gadw llygad ar y datblygiadau ac ymateb.

Dywedodd Dr Marion Lyons, y Cyfarwyddwr Amddiffyn Iechyd: "Mae digon o gyfleoedd i rieni frechu eu plant ond dylai rhieni sicrhau eu bod yn achub y cyfleoedd.

"Does dim modd dod â'r gyfres o achosion i ben os nad yw rhieni'n trefnu brechu eu plant gyda'r meddyg teulu neu'n galw i mewn i'r sesiynau penwythnos neu'n llofnodi ffurflen ganiatáu os yw'r plentyn yn cael ei frechu yn yr ysgol."

'Ymhob bwrdd iechyd'

Er bod y clefyd yn effeithio ar blant o bob oedran, dywedodd eu bod yn poeni'n benodol am y rhai rhwng 10 ac 18.

"Ac er bod y gyfres o achosion yn effeithio ar fyrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda, mae 'na achosion ymhob bwrdd iechyd yng Nghymru.

"Does dim modd i ni ddweud lle y bydd y gyfres o achosion yn lledu."

Mewn clinigau arbennig a gynhaliwyd dros y penwythnos yn ardaloedd tri bwrdd iechyd, fe gafodd cyfanswm o tua 2,500 o bobl eu brechu yn erbyn y frech goch. Roedd hynny'n dilyn 1,700 o frechiadau dros y penwythnos blaenorol.

Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod tua 40,000 o blant yng Nghymru sydd heb gael y brechiad MMR.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol