Mwy o orsafoedd digidol i'r gogledd-ddwyrain

  • Cyhoeddwyd
Radio DABFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Doedd gorsafoedd Cymru ddim ar gael ar radio digidol yn y gogledd-ddwyrain cyn dydd Gwener

Bydd gwrandawyr radio digidol yn y gogledd-ddwyrain yn medru clywed rhai gorsafoedd am y tro cyntaf pan fydd trosglwyddyddion newydd yn cael eu tanio ddydd Gwener.

Hyd yn hyn dim ond gwrandawyr mewn rhannau o dde Cymru sydd wedi medru clywed gorsafoedd fel BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ar setiau radio digidol.

Nawr, yn ôl Digital Radio UK (DRUK) bydd 375,000 o bobl yn y gogledd-ddwyrain yn medru derbyn y signal.

Dywed y grŵp fod 36% o gartrefi yng Nghymru bellach yn berchen ar radio digidol DAB.

Mae'r trosglwyddyddion newydd yn dechrau ar eu gwaith rhyw bum mlynedd yn hwyrach na'r cynllun gwreiddiol.

Tua'r gorllewin

Bydd y ddau drosglwyddydd yn Wrecsam Rhos a Moel-y-Parc yn cael eu tanio gan Aelod Seneddol Wrecsam, Ian Lucas.

Fe fydd y trosglwyddyddion hefyd yn gwella'r ddarpariaeth mewn rhannau o Gaer a Lerpwl yn ogystal.

Dywedodd golygydd BBC Radio Cymru Lowri Davies: "Rydym yn gwybod bod ein gwrandawyr am wrando ar yr iaith Gymraeg ar draws bob platfform felly mae heddiw yn gam sylweddol ymlaen."

Bydd rhai gorsafoedd masnachol hefyd yn gobeithio ymestyn eu cynulleidfaoedd, gan gynnwys Real Radio, Nation Radio, Dee 106.3 o Gaer a 107.6 Juice FM yn Lerpwl.

Mae gorsafoedd y BBC drwy'r DU ac ystod o orsafoedd masnachol Llundain eisoes yn darlledu ar radio digidol yn y gogledd-ddwyrain.

Mae'n bosib y bydd yn rhaid i rai gwrandawyr ail-diwnio eu setiau radio er mwyn cael y gwasanaethau newydd.

Y gobaith nawr yw ymestyn y gwasanaethau ymhellach i'r gorllewin yn y dyfodol drwy ychwanegu trosglwyddyddion newydd.

Bydd rhaid i rannau o ganolbarth a gorllewin Cymru aros cyn y bydd ystod lawn o wasanaethau radio digidol ar gael iddyn nhw.