Pryder am gynlluniau gwelyau ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yn rhybuddio na ddylai cleifion gael eu gorfodi i adael yr ysbyty cyn eu bod yn teimlo'n barod i wneud hynny.
Yn ôl Age Cymru, mae'n rhaid sicrhau fod cefnogaeth ddigonol i gleifion a'u teuluoedd cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau.
Daw hyn ar ôl i'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford gyhoeddi cyfres o fesurau i geisio sicrhau mwy o welyau ar wardiau ysbyty.
Dywed Llywodraeth Cymru mai'r nod yw gneud yn siŵr fod pobl hŷn yn cael y gofal maen nhw ei angen mor fuan â phosib.
Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth yn amcangyfrif fod tua 275 o welyau yn cael eu defnyddio gan gleifion fyddai'n ddigon da i adael yr ysbyty - a'r mwyafrif o'r cleifion hynny yn rhai oedrannus.
Yn ôl y llywodraeth, mae'r oedi wrth ryddhau cleifion yn arwain at wardiau sy'n rhy llawn ac oedi hir o fewn adrannau brys.
Ddydd Mawrth, galwodd Mr Drakeford ar y Gwasanaeth Iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol i gydweithio ar frys i fynd i'r afael â'r sefyllfa.
'Teimlo pwysau'
Er bod y llywodraeth yn mynnu mai gwarchod buddiannau cleifion hŷn maen nhw, mae Age Cymru yn dweud na ddylai'r mesurau dan sylw olygu fod cleifion yn teimlo pwysau i adael yr ysbyty cyn eu bod yn barod.
Yn ôl Iwan Roberts, o elusen Age Cymru: "'Da ni ddim eisiau gweld pobl sydd mewn cyflwr iechyd bregus yn teimlo pwysau i adael yr ysbyty cyn bod nhw'n barod i wneud hynny.
"Falle eu bod nhw'n barod yn gorfforol, ond beth sydd angen ydy system ofal sy'n darparu'r lefel o ofal mae pobl ei angen - tra'u bod nhw yn yr ysbyty, cyn gadael yr ysbyty ac ar ôl gadael yr ysbyty.
"Mae'n annerbyniol fod pobl yn aros yn yr ysbyty yn hirach na ddylai nhw, ond mae'n rhaid cofio mai trafodaeth am bobl yw hon, nid am welyau mewn ysbytai.
"Falle bydd 'na fwy o alw am y gwasanaethau yma gan bobl hŷn yn y dyfodol, felly mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar y ddarpariaeth i'r dyfodol."
Gofalwyr
Mae Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon Ann Clwyd - a gafodd ei phenodi gan y Prif Weinidog David Cameron i arwain adolygiad o systemau cwynion y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr - hefyd wedi dweud bod ganddi bryderon ynglŷn â chynlluniau gweinidog iechyd Cymru i gyflymu'r broses o symud cleifion o'r ysbyty yn ôl i ofal yn y gymuned.
Wrth siarad ar y Post Cynta ddydd Mercher, dywedodd: "Mae'n dibynnu beth mae symud i'r gymuned yn ei olygu - pwy sy'n mynd i edrych ar ôl rhywun sy'n mynd i'r gymuned ar eu pen eu hunain?
"Does dim digon o ofalwyr dros bobl yn y gymuned - o le mae'r rheiny'n mynd i ddod? Mae'n rhaid datrys y broblem ond nes mae'r cyfan yn cael ei egluro'n llawn i mi, alla' i ddim dweud a ydw o blaid ai peidio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013