Y bardd yn America
- Cyhoeddwyd
Mae bwriad i sgriptio ffilm am daith darllen barddoniaeth ola' Dylan Thomas yn America.
Bydd y ffilm, A poet in New York, yn cael ei dangos y flwyddyn nesa' pan fydd canmlwyddiant ei eni'n cael ei ddathlu.
Bu farw'r bardd o Abertawe yn Efrog Newydd yn Nhachwedd 1953. Roedd yn 39 oed.
Cafodd Andrew Davies o Gaerdydd ei gomisiynu i sgriptio'r ffilm fydd yn cael ei darlledu ar BBC Un Cymru a BBC Dau.
Bydd y ffilmio'n dechrau yn hwyr yn yr haf yng Nghaerdydd a Thalacharn.
Pan oedd y bardd yn Efrog Newydd roedd ar fin cymryd rhan yn Dan y Wenallt, ei ddrama enwog, yn Manhattan.
Roedd ar ei ffordd i Hollywood lle yr oedd i fod i sgrifennu opera gyda Stravinsky.
'Anrhydedd'
Yn ôl Andrew Davies, mae gweithio ar ffilm ar Dylan Thomas yn "fraint ac yn anrhydedd".
"Roedd Dylan Thomas yn ysbrydoliaeth enfawr i mi achos roedd fy magwraeth i yn ne Cymru yn ddigon tebyg i'w fagwraeth ef".
Bydd blwyddyn o weithgareddau pan fydd canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn cael ei ddathlu yn 2014.
Bydd Gŵyl 100 Dylan Thomas yn cynnwys perfformiadau llwyfan, celfyddydau gweledol, comedïau, rhaglenni teledu, ffilmiau ac arddangosfeydd.
Bydd y digwyddiadau yn y lleoedd gafodd y dylanwad mwyaf ar y bardd, Uplands yn Abertawe, Talacharn a Cheredigion.
Ymhlith y gweithgareddau mae taith lenyddol ac arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol, perfformiad llwyfan o "A Child's Christmas in Wales," a chynhyrchiad o "Under Milk Wood".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2012