Llyfrgell yn ailagor ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell GenedlaetholFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion yn asesu'r difrod yn sgil y tân

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn ail-agor i'r cyhoedd ddydd Mawrth wedi'r tân yn yr adeilad ddydd Gwener.

Bydd tua 70 o weithwyr yn cael eu symud i rannau eraill o'r llyfrgell am y tro.

Mae rhai digwyddiadau oedd i'w cynnal yr wythnos hon wedi eu gohirio ond ar wahân i hynny mae'r llyfrgell yn gobeithio cynnig gwasanaeth llawn.

Ymchwiliad

Yn y cyfamser, mae ymchwiliad wedi dechrau i'r hyn achosodd y tân.

Yn ôl y llyfrgell, yr unig eitemau o'r casgliad gafodd eu difrodi oedd y rhai yr oedd y staff yn eu defnyddio ar y pryd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Arwel Jones wrth y BBC fod y dŵr a ddefnyddiwyd i ddiffodd y fflamau wedi treiddio trwy bump neu chwe llawr o'r adeilad.

"Mae difrod i strwythur yr adeilad ac i swyddfeydd, ac wrth gwrs, i unrhyw gasgliadau oedd yn cael sylw yno ar y pryd.

"Hyd y gwyddom, mae'r difrod i gasgliadau yn gyfyngedig.

"Fe allai fod wedi bod yn llawer gwaeth."

300

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw am 2.39pm ddydd Gwener ddiwethaf.

Mae rhan 30 metr o hyd o'r to wedi cael ei difrodi a bu raid i 300 o weithwyr ac ymwelwyr adael yr adeilad.

Roedd y tân yng nghefn yr adeilad gyferbyn â'r prif faes barcio.

Ar un adeg roedd diffoddwyr yn defnyddio ysgol hir wrth geisio diffodd y fflamau.