Cyfle i ddweud barn am ddatganoli
- Cyhoeddwyd
Mae comisiwn yn annog pobl Cymru i ddweud eu barn am ddyfodol datganoli.
Y cwestiwn y byddan nhw'n ei ofyn yw Pa bwerau pellach, os o gwbwl, y dylid eu rhoi yn nwylo'r Cynulliad, a Llywodraeth Cymru?
Bydd y digwyddiad cyntaf yng Nghaerdydd ar Fai 21.
Sefydlwyd Comisiwn Silk gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn ystyried dyfodol datganoli a bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2014 am bwerau'r Cynulliad.
Cyllid
Mae'r comisiwn eisoes wedi cyhoeddi un adroddiad ar drefniadau cyllid yng Nghymru ac argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn berchen ar bwerau i amrywio trethi.
Bydd y cyfarfodydd cyntaf yn y de ym mis Mai cyn cael eu cynnal yng ngweddill Cymru ym mis Mehefin.
Dywedodd cadeirydd y comisiwn Paul Silk: "Rydym yn benderfynol o ddod o hyd i argymhellion fydd yn cael eu cefnogi'n eang ac er budd gorau Cymru.
"Yr unig ffordd y gallwn ni wneud hyn yw trwy wrando a dadansoddi pob tystiolaeth sy'n cael ei rhoi i ni a chlywed cymaint o safbwyntiau â phosib.
"Mae ein neges yn syml - dewch draw i chwarae eich rhan i sicrhau bod gan Gymru'r pwerau cywir ar gyfer y dyfodol."
Calendr cyfarfodydd cyhoeddus
Mai 21: Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd;
Mai 21: Ystafell y Castell, Canolfan Casnewydd, Casnewydd;
Mai 22: Canolfan Ddiwylliannol a Chynadledda'r Metropole; Stryd Mitre, Abertyleri
Mai 22: Neuadd y Sir, Sgwâr Agincourt, Trefynwy;
Mai 23: Theatr Soar, Merthyr;
Mai 23: Campws Cymuned Gartholwg, Heol Sant Illtud, Pontypridd
Mehefin 4: Neuadd y Dre Llandudno, Heol Lloyd, Llandudno
Mehefin 4: Canolfan Catrin Finch, Campws Plas Coch, Heol Yr Wyddgrug, Wrecsam
Mehefin 5: Neuadd Penrhyn, Ffordd Gwynedd, Bangor;
Mehefin 5: Neuadd y Dre Llangefni, Llangefni, Ynys Môn;
Mehefin 6: Pierhead, Bae Caerdydd;
Mehefin 25: Coleg Powys, Heol Llanidloes, Y Drenewydd;
Mehefin 25: Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Penglais, Aberystwyth;
Mehefin 26: Theatr y Torch, Heol San Pedr, Aberdaugleddau;
Mehefin 26: Canolfan Halliwell, Heol y Coleg, Caerfyrddin;
Mehefin 27: Theatr y Grand, Stryd Singleton, Abertawe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012