Fflint yn cefnogi carchar anferth i Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Carchar
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r carchar yn dal dros 2,000 o garcharorion

Mae arweinyddion Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi eu bod yn cefnogi agor carchar anferth newydd yn Wrecsam.

Roedd y cyngor yn awyddus i weld carchar yn cael ei adeiladu ar safle yn sir y Fflint ond daeth i'r amlwg nad oedd lle addas yno.

Maen nhw nawr am gefnogi cais Cyngor Wrecsam i adeiladu carchar fydd yn dal dros 2,000 o garcharorion.

Os bydd y cynlluniau'n cael eu caniatau, byddai'r carchar yn cael ei adeiladu ar stad ddiwydiannol fwyaf y dref.

Y ddau safle sy'n cael eu hystyried yw Parc Kingmoor a safle hen ffatri Firestone.

Mae aelodau o gabinet y cyngor yn ffafrio safle Firestone, sydd hefyd wedi cael cefnogaeth gan Carwyn Jones.

'Manteision economaidd'

Dywedodd arweinydd y cyngor Aaron Shotton: "Rydym yn gwbl y tu ôl i'r ymgyrch i gael carchar ar gyfer Gogledd Cymru, sef yr unig ardal yn y DU heb un.

"Byddai cyfleuster o'r fath yn caniatáu carcharorion o'r rhanbarth i ddefnyddio eu hiaith gyntaf ac yn debygol o leihau cyfraddau ail-droseddu.

"Nid yn unig hynny, byddai'n dod â manteision economaidd sylweddol i'r ardal a allai arwain at greu dros 1,000 o swyddi a gwariant disgwyliedig posibl o tua £47m."

Mae Ysgrifennydd Cymru David Jones hefyd o blaid a dywedodd yn ddiweddar byddai'n codi'r mater yn ystod cyfarfod y Cabinet.

Does dim carchar yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd.

Roedd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling, eisoes wedi dweud y gallai carchar newydd gael ei leoli naill ai yn Llundain, gogledd-orllewin Lloegr neu yng Ngogledd Cymru.

Y rheswm pam bod angen carchar newydd yw oherwydd y bydd saith carchar yn Lloegr, sy'n dal 2,600 o garcharorion ar hyn o bryd, yn cau.

Mae cynlluniau wedi eu cyhoeddi'n barod ar gyfer adeiladu pedwar carchar bach newydd, ac fe fydd un o'r rheini yn cael ei leoli ar safle Carchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr.