Sioe yn codi ymwybyddiaeth am ddementia
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Alzheimer's Wrecsam yn annog pobl i siarad am ddementia yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia.
Fel rhan o'r wythnos mae myfyrwyr Teledu, Theatr a Pherfformiad o Brifysgol Glyndŵr yn cynnal perfformiadau o sioe o'r enw 'Open Voices'.
Mae'r sioe yn delio â phwnc dementia a chafodd ei hysgrifennu gan y myfyrwyr eu hunain.
Dywedodd Jacky Baldini, Rheolwr Ardal ar gyfer Cymdeithas Alzheimer's: "Wrth i'r boblogaeth heneiddio rydym i gyd yn wynebu'r risg o ddatblygu dementia.
"Po fwyaf rydym yn gwybod am y cyflwr, y mwyaf parod y byddwn i'w wynebu.
"Mae'r myfyrwyr wedi gwneud llawer o ymdrech i ymchwilio dementia ar gyfer eu perfformiadau ac rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr."
'Parchu difrifoldeb'
Elen Mai Nefydd, uwch-ddarlithydd theatr a pherfformiad ym Mhrifysgol Glyndŵr, sydd yn cyfarwyddo'r perfformiadau.
"Mae wedi bod yn her cydbwyso parchu difrifoldeb y cyflwr tra, ar yr un amser, ceisio cyfleu'r neges y gall pobl fyw bywydau hapus a bodlon gyda dementia," meddai.
Dywedodd Sara Hughes, un o'r myfyrwyr sydd yn cymryd rhan yn y perfformiadau, eu bod wedi gweithio'n agos gyda staff Cymdeithas Alzheimer's.
"Fel grŵp ein prif amcan yw codi ymwybyddiaeth o ddementia ac addysgu pobl am ba cymorth a chefnogaeth sydd ar gael iddynt.
"Rydym am i'r gynulleidfa sylweddoli pa mor bwysig yw hi i beidio â diystyru dementia," dywedodd.
Bydd y perfformiadau am 1.30pm a 7.30pm ar ddydd Iau a dydd Gwener 23-24 Mai yng Nghanolfan Catrin Finch ar gampws Prifysgol Glyndŵr.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia yn para tan Mai 25, 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2013
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2012