Siarad am ddementia yn 'rhy anodd' i fwyafrif o bobl
- Cyhoeddwyd
Byddai mwy 'na hanner o bobl yng Nghymru (53%) yn ei chael hi'n anodd siarad gyda'u teuluoedd petaent yn credu bod ganddynt ddementia.
Dyna ydy canlyniad arolwg a gomisiynwyd gan Gymdeithas Alzheimer's i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia.
Rhybuddiodd Gymdeithas Alzheimer's y gallai hyn olygu bod hyd at hanner miliwn o bobl yn dioddef yn ddistaw heb gefnogaeth eu teuluoedd hyd yn oed.
YouGov wnaeth wneud yr arolwg a holwyd 2056 o bobl. Roedd 99 o'r bobl hynny yn dod o Gymru.
Bydd un o bob tri o bobl dros 65 yn datblygu dementia dywed yr elusen a dim ond 46% o'r 800,000 o bobl sy'n byw gyda dementia sydd yn cael diagnosis.
Dywedodd Sue Phelps, cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer's yng Nghymru ei bod yn drist bod gymaint o bobl yn teimlo na allant siarad am ddementia.
"Ar hyn o bryd mae dros 44,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia, a miloedd mwy yn cael eu heffeithio gan y cyflwr mewn rhyw ffordd, naill ai fel aelod o'r teulu neu fel ffrind," meddai.
"Gall siarad fod yn gam pwysig wrth newid pethau er gwell.
"Mae dwy ran o dair o bobl sydd yn dioddef oddementiaa yn byw yn eu cartrefi eu hun.
"Felly mae angen nid yn unig i deuluoedd a ffrindiau fod yn fwy agored am ddementia ond y gymuned ehangach hefyd.
"Po fwyaf rydym yn ei wybod am ddementia, y mwyaf parod fyddwn ni i'w wynebu gyda'n gilydd."
Profiad personol
Fe gafodd Joyce Baker sydd yn byw yng Nghaerdydd wybod bod ganddi'r salwch Alzheimer's yn 2008. Roedd hi'n 53 oed.
Mae'n teimlo bod hi yn bwysig i fod yn agored: "Dw i'n siarad am Alzheimer's oherwydd does gen i ddim cywilydd bod gen i'r salwch.
"Dw i'n dweud wrth bobl dw i'n cyfarfod fod gen i'r cyflwr fel eu bod nhw'n gallu bod yn ymwybodol a deall os ydw i ddim yn cofio pethau.
"Mi wnes i ddweud wrth fy nheulu fel ei bod nhw'n medru deall, fy helpu yn fy mrwydr a pharhauynnbositiff.
"Dw i eisiau dweud hyn: fy salwch i yw Alzheimer's, nid pwy ydw i."
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia yn para tan 25 Mai 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012