Dementia ar gynnydd yng Nghymru yn ôl ystadegau

  • Cyhoeddwyd
Yr ymennyddFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu fod 27,000 o gleifion dementia yng Nghymru sydd heb gael diagnosis

Mae nifer cleifion dementia yng Nghymru ar gynnydd, yn ôl y ffigyrau diweddara'.

Erbyn hyn, mae yna dros 17,000 o bobl wedi cael diagnosis am y cyflwr - sy'n gynnydd o 800 ers y llynedd.

Ond mae'n debyg bod 27,000 yn rhagor o bobl sy'n byw gyda'r cyflwr yng Nghymru sydd heb gael diagnosis.

Mae'r ffigyrau newydd yn datgelu fod y gyfradd o ran diagnosis yn amrywio'n fawr o un ardal i'r llall yn y DU.

38.5% o gleifion dementia yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis - o'i gymharu â 75% yn rhywle fel Belfast yng Ngogledd Iwerddon.

Mae'r astudiaeth ddiweddara' hefyd yn awgrymu fod cleifion yn ne Cymru yn fwy tebygol o gael diagnosis o'i gymharu â phobl sy'n byw yn y gogledd.

'Angen gweithredu'

"Mae'n galonogol i weld fod yna gynnydd yn nifer y cleifion sy'n cael diagnosis - ond dyw llai na hanner y bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru ddim yn cael y gefnogaeth na'r triniaethau meddygol sydd ar gael," meddai Sue Phelps, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Alzheimer yng Nghymru.

"Mae'r Gwasanaeth Iechyd eisoes wedi ymrwymo i geisio gwella'r gyfradd ddiagnosis ond does fawr o newid wedi bod yng Nghymru.

"Mae'n amser troi gair yn weithred, i geisio sicrhau fod cleifion yn gallu byw'n dda gyda'r cyflwr."

Targedau

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymwybodol fod yna broblemau gyda diagnosis dementia, ac rydym wedi gofyn i'r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd i edrych ar y mater.

"Rydym wedi datblygu cynllun i adnabod y cyflwr yn gynt ac wedi gosod targedau i geisio gwella hyn.

"Yn ogystal rydym wedi gofyn iddyn nhw a Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer meddygfeydd i wella diagnosis, ac mae'r gwaith yma wedi dechrau."

Dros y flwyddyn ddiwetha', mae'r Gymdeithas Alzheimer wedi cydweithio gyda Tesco i gynnal Taith Dementia sydd wedi ymweld â lleoliadau ar draws y DU.

Yng Nghymru mae wedi ymweld â Wrecsam, Yr Wyddgrug, Y Trallwng a Llanelli.

Dywed yr elusen y byddan nhw hefyd yn dosbarthu miloedd o daflenni i feddygfeydd a chanolfannau cymunedol ar draws Cymru ddiwedd mis Ionawr, yn hysbysu pobl o bwysigrwydd cael diagnosis.

Mae'r elusen yn cynghori unrhyw un sy'n pryderu eu bod yn mynd yn anghofus neu'n cael trafferth cofio digwyddiadau diweddar, ymhlith symptomau eraill, i gysylltu â'u meddyg teulu.

Gall pobl hefyd gysylltu â'r Gymdeithas Alzheimer ar 0845 300 0336 neu edrych ar eu gwefan, dolen allanol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol