Cymdeithas: Diffyg cyfleoedd Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i ddweud yn gyhoeddus a yw'n cefnogi rhoi'r hawl i bobl ifanc wneud gweithgareddau ar ôl ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth ymateb i'r alwad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi'n bwysig bod gan bobl, yn enwedig pobl ifanc, y cyfle i "ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau".
Yn ystod cyfarfod agored ar faes eisteddfod yr Urdd, dywedodd Siân Howys o'r gymdeithas fod diffyg darpariaeth gwersi nofio a phêl-droed a chyfleoedd hamdden trwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu nad yw pobl ifanc sy'n medru'r Gymraeg yn ei defnyddio y tu allan i'r ysgol.
Yn ôl ymchwil gan y gymdeithas, mae bron i hanner cynghorau Cymru yn methu darparu gwersi nofio cyfrwng Cymraeg.
"Mae llawer iawn o'r llefydd 'ma sy'n cynnig gwersi yn gyrff cyhoeddus ac mae cynlluniau iaith wedi bodoli (iddyn nhw) ers amser maith, mae'n sefyllfa cwbl warthus," meddai Ms Howys.
"Dyw'r cynghore ddim yn rhoi digon o fri ar y sgiliau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg."
'Hawl i gymdeithasu'
Mae Angharad Tomos o Gymdeithas yr Iaith wedi bod yn annog pobl ifanc ar faes yr eisteddfod i roi gwybod i'r gymdeithas pa wasanaethau yr hoffen nhw eu derbyn y tu allan i'r ysgol.
Mynnodd Ms Tomos bod pobl ifanc yn gweld y Gymraeg fel rhywbeth i'r ystafell ddosbarth yn unig.
"Mae plant heddiw yn cysylltu iaith gwasanaethau hamdden gyda'r Saesneg," meddai.
"Maen nhw'n cael addysg Gymraeg oes ydyn nhw'n ffodus ond wedi'r ysgol mae iaith mwynhau trwy gyfrwng y Saesneg.
"Rhaid i'n pobl ifanc ni gael yr hawl i gymdeithasu yn y Gymraeg er mwyn bod yr iaith yn dod yn hawdd iddyn nhw."
Dywedodd Ms Howys wrth y 30 ddaeth i wrando ar drafodaeth y Gymdeithas eu bod fel sefydliad yn croesawu cyhoeddiad diweddar y gweinidog addysg bod y llywodraeth wedi sefydlu cronfa gwerth £750,000 i ddatblygu'r cyfryngau digidol trwy gyfrwng y Gymraeg, ond bod angen mwy.
"Ble mae'r gweddill?" meddai.
"Carwyn Jones - ydych chi o blaid bod pobl ifanc Cymru yn cael gweithgareddau hamdden yn y Gymraeg? Ydych chi neu nagy'ch chi?"
Y Gynhadledd Fawr
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym yn cytuno ei bod yn bwysig bod gan bobl, yn enwedig pobl ifanc, y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau.
"Bydd cynigion ar gyfer y set gyntaf o safonau mewn perthynas â'r Gymraeg, a fydd yn arwain at hawliau i siaradwyr Cymraeg o ran gwasanaethau iaith Gymraeg, yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
"Mae ein strategaeth ar gyfer y Gymraeg hefyd yn nodi'r meysydd sydd raid i ni ganolbwyntio arnynt er mwyn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar draws cymdeithas.
"Rydym wedi darparu dros £3.5 miliwn mewn grantiau i gefnogi gweithgareddau wedi'u hanelu at gynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, gan gynnwys grantiau i fudiadau sy'n cynnig gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Ychwanegodd y llywodraeth eu bod yn credu bod barn pobl ar ddyfodol yr iaith yn bwysig, a'u bod felly wedi penderfynu cynnal sgwrs genedlaethol, Y Gynhadledd Fawr, "i drafod y camau y mae angen eu cymryd i sicrhau dyfodol yr iaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2013
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2012