'Anlwc rhyfeddol'
- Cyhoeddwyd
Cafodd casgliad o gofnodion capel hanesyddol y Tabernacl yng Nghaerfyrddin eu llosgi yn y tân yn y Llyfrgell Genedlaethol fis diwethaf.
Dywedodd y Parchedig Peter Cutts, gweinidog y Tabernacl, iddo dderbyn galwad ffôn gan swyddog yn y Llyfrgell yn ei hysbysu bod tri blwch o ddogfennau'r capel wedi eu dinistrio.
Does gan y Llyfrgell ddim sylw i'w wneud ar hyn o bryd, gan eu bod yn dal i gysylltu â mudiadau a/neu unigolion lle y mae deunydd wedi ei ddinistrio.
Cafodd Mr Cutts ar ddeall fod y papurau yn cael eu paratoi ar gyfer eu hanfon i wasanaeth archifau Sir Gaerfyrddin adeg y tân, ac yn ôl Peter Cutts, "mi fasen nhw wedi bod yn iawn tasen nhw wedi bod yn y lle arferol".
"Anlwc rhyfeddol"
Y llynedd, cyhoeddodd cyn-weinidog y capel, y Parchedig Desmond Davies, lyfr yn dwyn y teitl 'Pobl y Porth Tywyll' sy'n croniclo hanes y Tabernacl hyd at 1968.
Mae bodolaeth y llyfr hwnnw yn cynnig rhywfaint o gysur i'r awdur a Mr Cutts gan ei fod yn cofnodi nifer o hanesion y capel, hanesion a fyddai o bosib wedi cael eu colli fel arall yn y tân.
Wrth ddisgrifio'r golled fel "anlwc rhyfeddol", dywedodd Mr Cutts ei fod yn aros i glywed yn ôl gan y Llyfrgell beth yn union oedd natur y deunydd a losgwyd.
Mae disgwyl y bydd hynny'n digwydd wythnos nesaf.
Mae'r Dr Davies yn gofidio y gallai cofnodion y cyfnod diweddar fod wedi eu dinistrio, gan na wnaeth e ymdrin â nhw yn ystod ei waith ymchwil.
Colli hanes
Nid dyma'r tro cyntaf i'r Tabernacl golli peth o'i hanes mewn tân.
Dinistriwyd papurau Titus Lewis, fu'n weinidog ar y capel tan ei farwolaeth yn 1811, pan oedden nhw yng nghartref mab ei olynydd fel gweinidog.
Roedd Titus Lewis yn amlwg oherwydd ei amddiffyniad o Galfiniaeth ac roedd yn awdur toreithiog.
Mae hanes y Bedyddwyr yng Nghaerfyrddin yn mynd nôl i 1650 - pan sefydlwyd cangen o eglwys Ilston yng Ngŵyr yno.
Yn ôl y Parchedig Desmond Davies, roedd y Tabernacl yn un o brif achosion y Bedyddwyr ac fe wnaeth yr eglwys gyfraniad pwysig i ddatblygiad Ymneilltuaeth Gymreig.
Y llynedd, dathlodd y Tabernacl ddwy ganrif ar y safle presennol yn nheras Waterloo.