Meddygon: 'Angen camau ar frys'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys a denu mwy o feddygon i weithio yng Nghymru, medd Plaid Cymru.
Dywedodd y blaid fod lefelau staffio meddygon yn is y pen yng Nghymru na'r mwyafrif o wledydd Ewrop.
Roedd hyn ar sail eu dadansoddiad o ystadegau Mudiad Iechyd y Byd.
Honnodd eu harweinydd Leanne Wood mai'r prinder oedd y rheswm am gynlluniau i ddod â gwasanaethau arbenigol i ben yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Hyrwyddo
Mae gweinidogion wedi dweud eu bod yn hyrwyddo manteision gweithio yng Nghymru ac yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem.
Yn y de mae cynigion yn golygu cwtogi adrannau arbenigol o saith i bedair neu bump.
Dadl penaethiaid yw bod hyn yn hanfodol yn wyneb poblogaeth sy'n heneiddio, pwysau ariannol a phrinder meddygon.
Dywedodd Ms Wood fod ei phlaid "wedi rhybuddio droeon am gwtogi gwasanaethau ers 10 mlynedd".
Cymelldaliadau
"Rydyn ni wedi cynnig sawl ateb cadarnhaol. Rhaid i ni sicrhau bod Cymru'n lle deniadol ar gyfer meddygon."
Dywedodd y llefarydd iechyd Elin Jones AC fod atebion mewn gwledydd o faint tebyg yn cynnwys cymelldaliadau ar gyfer meddygon graddedig.
"Yn y tymor hir fe fyddwn yn anelu at annog ein plant mwya' disglair i astudio meddygaeth, a buddsoddi yn y gwyddorau ac, wrth gwrs, fe fyddai hyn yn arwain at sgileffeithiau economaidd."
Dywedodd y Gymdeithas Feddygol fod y sefyllfa'n annerbyniol.
Awgrymodd y gallai byrddau iechyd fod ar fai am nad ydyn nhw'n llenwi swyddi gwag yn ddigon cyflym oherwydd prinder arian.
Her
Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, mae prinder meddygon yn her sy'n wynebu pob un o wledydd Prydain.
"Y gyfradd swyddi gwag yw 2.5% ac mae hyn yn cymharu'n ffafriol â gweddill gwledydd y Deyrnas Gyfunol.
"Ond mae 'na brinder cyffredinol mewn rhai arbenigeddau ac mae ymgyrch Gweithio i Gymru yn ymateb i hyn.
"Dydyn ni ddim yn gwybod am dystiolaeth o blaid atebion mewn gwledydd eraill a dydyn ni ddim o blaid cymelldaliadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd31 Mai 2013