Swydd newydd i Ieuan Wyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Ieuan Wyn JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Arweiniodd Ieuan Wyn Jones ei blaid i mewn i glymblaid gyda Llafur yn 2007

Mae cyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi cyhoeddi'n swyddogol y bydd yn rhoi'r gorau iddi fel Aelod Cynulliad Môn er mwyn helpu i "greu gwell economi i Ynys Môn a gogledd orllewin Cymru".

Bydd ei benderfyniad yn arwain at gynnal is-etholiad ar yr ynys.

Cyhoeddodd Mr Jones y bydd yn gadael i fod yn brif weithredwr Parc Gwyddoniaeth Menai, fydd yn cael ei arwain gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth.

Cafodd y cyllid o £10 miliwn i sefydlu'r fenter ei gymeradwyo fel elfen o'r cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru er mwyn pasio cyllideb Llywodraeth Cymru yn Nhachwedd 2012.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Prifysgol Bangor eu bod yn chwilio "am berson amlwg" yng Nghymru i fod yn brif weithredwr y Corff Arbennig sydd wedi ei sefydlu i redeg Parc Gwyddoniaeth Menai.

Gan ddisgrifio ei hun fel un sydd "wedi ymrwymo i, ac yn angerddol am, greu gwell economi i Ynys Môn a gogledd orllewin Cymru", dywedodd Mr Jones ei fod yn benderfynol o ddefnyddio ei sgiliau ac arbenigedd i sicrhau fod y Parc Gwyddoniaeth yn chwarae rhan flaenllaw yn cryfhau ac ehangu economi'r ardal.

Tynnodd sylw at y niferoedd uchel o bobl ifanc sydd yn gadael yr ardal ac at botensial prosiect y Parc Gwyddoniaeth i wrthdroi'r duedd honno drwy allu creu cyfleoedd gyrfa o werth uchel.

Gyrfa wleidyddol

Mae'r cyfreithiwr o Ddinbych wedi cael gyrfa wleidyddol o bwys yng Nghymru, gan gynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan rhwng 1987 a 2001.

Cafodd ei ethol yn Llywydd y blaid yn Awst 2000, ar ôl i Dafydd Wigley ildio'r awenau oherwydd rhesymau meddygol.

Yna fe arweiniodd ei blaid i rannu grym gyda Llafur ym Mae Caerdydd wedi etholiad y Cynulliad yn 2007.

Daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog a chafodd gyfrifoldeb am bortffolio pwysig yr economi o fewn y llywodraeth glymblaid.

Daeth ei gyfnod fel arweinydd Plaid Cymru i ben wedi canlyniadau siomedig y blaid yn etholiad y Cynulliad yn 2011.

Cafodd Mr Jones ei olynu gan Leanne Wood ym mis Mawrth y llynedd.

'Braint ac anrhydedd'

Wrth wneud ei gyhoeddiad ddydd Mawrth, dywedodd Ieuan Wyn Jones:

"Mae hi wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd enfawr i mi gael cynrychioli a gwasanaethu pobl Ynys Môn, yn gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ac yna yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Yn fy araith gyntaf i'r Senedd ym 1987, dywedais fy mod wedi cael fy ethol i roi Ynys Môn ar fap gwleidyddol Cymru, ac rydw i'n falch fy mod wedi gallu cyflawni canlyniadau go iawn i'r ynys, fel AS ac fel AC a thrwy fy rôl fel Arweinydd Plaid Cymru ac fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth.

"Teimlaf ei fod wedi bod yn gymorth mawr i'r etholaeth gael llais ar y lefel uchaf ac rydw i'n falch fy mod wedi gallu cynrychioli f'etholwyr ar lefel genedlaethol hefyd.

"Hoffwn ddiolch o galon i bobl Ynys Môn am eu cefnogaeth a'u cymorth dros y chwe blynedd ar hugain ddiwethaf a mwy, ac rydw i'n benderfynol o barhau i wasanaethu eu buddiannau yn y rôl newydd yr wyf yn ei gymryd.

"Rydym wedi colli cenedlaethau di-rif o bobl ifanc o Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy oherwydd y diffyg cyfleoedd gyrfa o werth uchel. Mae yna nifer a fyddai, petai'r cyfle ganddynt, wrth eu bodd yn aros yn yr ardal, ond sy'n gorfod gadael i ddod o hyd i waith."

'Her newydd'

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC:

"Mae gan Ieuan Wyn Jones record falch o wasanaethu pobl Ynys Môn am 26 mlynedd. Mae ei benderfyniad i fynd i'r afael â'r her newydd o arwain y prosiect Parc Gwyddoniaeth yn barhad o'i ymrwymiad i'r ardal.

"Does gen i ddim amheuaeth y bydd ei benderfynoldeb i drawsnewid yr economi leol er gwell yn gyrru'r prosiect parc gwyddoniaeth yn ei flaen yn llwyddiannus.

"Mae Plaid Cymru yn gwybod fod gwell dyfodol yn bosib i Ynys Môn a gogledd orllewin Cymru, ac rydym yn benderfynol o weithredu ac adeiladu'r dyfodol gwell hynny.

"Mae'n rhaid i ni drawsnewid economi'r ardal - dydy gorwedd yn ôl a'i adael i siawns ddim yn opsiwn i ni.

"Mae Parc Gwyddoniaeth Menai yn rhan annatod o'r gwaith sydd angen ei wneud a dyna pam fod Ieuan mor benderfynol o'i wneud yn llwyddiant."

'Synnu'

Wrth siarad ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru cyn y cyhoeddiad fore Mawrth, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Darran Hill nad oedd yn synnu fod Mr Jones yn gadael.

"Ond rwy'n synnu ei fod yn mynd nawr," meddai Mr Hill.

"Mae newid gyrfa fel hyn yng nghanol tymor Cynulliad yn bur anarferol.

"Mae bod yn 'incumbent' ar Ynys Môn wastad yn bwysig. Pan adawodd Ieuan Wyn Jones ei sedd yn San Steffan fe gollwyd y sedd i Lafur bryd hynny.

"Mae'n etholaeth unigryw a gall neb eistedd ar eu rhwyfau ar Ynys Môn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol