Canolfan Celfyddydau: ymddeoliad

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Gelfyddydau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brifysgol yn gwadu bod cynlluniau i gyfyngu ar fynediad i'r ganolfan

Mae cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei fod am ymddeol.

Roedd honiadau fod Alan Hewson a aelod arall o staff wedi cael eu gwahardd ac roedd bron i 2,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am iddynt gael eu hadfer i'w swyddi.

Dyw'r brifysgol erioed wedi cadarnhau na gwadu'r honiadau - ond maen nhw wedi talu teyrnged i'r gwaith wnaeth Mr Hewson dros y blynyddoedd.

Roedd wedi arwain y ganolfan ers 28 mlynedd.

'Blynyddoedd gwerth chweil'

Mewn datganiad ar y cyd rhwng y brifysgol a Mr Hewson, dywedodd ei fod wedi "mwynhau'r blynyddoedd heriol a gwerth chweil yn gweithio gyda thîm mor greadigol ac ymroddedig gan osod Canolfan y Celfyddydau yng nghanol y gymuned".

Fe wnaeth Mr Hewson ddiolch i gynulleidfa "ffyddlon ac ymroddgar" y ganolfan.

Dywedodd Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro Aled Jones fod Mr Hewson wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr dros flynyddoedd lawer i'w datblygiad.

Mae ymgyrchwyr yn y gorffennol wedi beirniadu'r newidiadau mae'r brifysgol eisiau wneud yno gan ddweud y byddai'r "ailstrwythuro llawdrwm" yn ei thanseilio.

Mewn ymateb i'r pryderon, dywedodd Prifysgol Aberystwyth: "Mae llawer o'r ymatebion a gawsom, ac rydym wrth gwrs yn ymateb iddyn nhw fesul un, yn pwysleisio'r cymysgedd hapus o'r defnydd sy'n cael ei wneud gan y brifysgol a'r gymuned sy'n nodweddiadol o'r Ganolfan Gelfyddydau ar hyn o bryd - ond dyma'n union be rydym eisiau ei warchod a'i wella," meddai'r datganiad.

"Mae'r brifysgol yn dweud yn bendant nad oes ac ni fu unrhyw gynllun prifysgol i leihau neu gyfyngu ar fynediad i'r cyhoedd a'r gymuned i'r Ganolfan Gelfyddydau.

"Mae'r cynllun sydd ar y gweill, sydd wedi cael ei gymeradwyo gan fwrdd ymgynghorol y ganolfan ei hun a Chyngor y Brifysgol, yn ei gwneud yn glir ei bod yn fwriad gan y brifysgol a'r Ganolfan Gelfyddydau i barhau i ddarparu cyfleusterau rhagorol, perfformiadau, cyrsiau a digwyddiadau ar gyfer y gymuned ehangach. "

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol