Kingsley Jones yw ishyfforddwr y Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Kingsley Jones
Disgrifiad o’r llun,

Kingsley Jones: 'Y nod fydd helpu'r chwaraewyr ifanc a sicrhau y bydd y Dreigiau'n uwch yn y tabl.'

Hyfforddwr Tîm Rygbi Rwsia, Kingsley Jones, yw ishyfforddwr newydd y Dreigiau.

Mae Kingsley'n hanu o Nant-y-glo, Blaenau Gwent, a chwaraeodd i Cross Keys, Pontypridd a Glyn Ebwy cyn symud i Gaerfaddon, Caerwrangon a Doncaster.

Ar un adeg roedd y blaenasgellwr yn gapten Cymru.

"Dwi'n falch y bydda' i'n helpu Lyn Jones," meddai.

"Y nod fydd helpu'r chwaraewyr ifanc a sicrhau y bydd y Dreigiau'n uwch yn y tabl.

'Cyffrous'

"Mae'n her gyffrous, cael hyfforddi yng Nghymru, a dwi'n edrych ymlaen."

Dywedodd y Cyfarwyddwr Rygbi Lyn Jones said: "Wnes i fwynhau cydweithio â Kingsley y llynedd gyda Chymry Llundain.

"Roedd ei gyfraniad yn wych ac roedd yn boblogaidd iawn.

"Yn y pen draw, bydd yn canolbwyntio ar y blaenwyr wrth i ni greu amgylchfyd positif yn y clwb."