John Yapp a Richie Rees i adael y Gleision am Gaeredin
- Cyhoeddwyd

Mae John Yapp wedi chwarae 21 tro dros Gymru
Bydd y ddau chwaraewr rhyngwladol John Yapp a Richie Rees yn gadael y Gleision i ac yn ymuno â Chaeredin y tymor nesaf.
Enillodd Yapp ei gap cyntaf dros Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005 pan enillodd Cymru'r Gamp Lawn.
Mae Rees, 28 oed, wedi cynrychioli Cymru yn safle'r mewnwr naw gwaith.
Bydd Rees yn cymryd lle Mike Blair yng ngharfan Caeredin ac fe fydd Yapp a'i gyd prop WP Nel, fydd yn ymuno â Chaeredin o Free State Cheetahs yn Ne Affrica, yn atgyfnerthu carfan blaenwyr y tîm o'r Alban.
'Cystadleuaeth brwd'
"Mae gan John profiad helaeth gan gynnwys ei berfformiadau dros Gymru yn ystod cyfnod llewyrchus i'r tîm cenedlaethol," meddai hyfforddwr Caeredin, Michael Bradley.
"Mae Richie yn fewnwr talentog sy'n meddu ar y ddawn naturiol o fylchu," ychwanegodd.
Dywedodd Yapp: "Rwy'n gyfarwydd â chystadleuaeth brwd am safleoedd yn y rheng flaen am fy mod wedi cystadlu â Gethin Jenkins yn nhîm y Gleision am flynyddoedd."
Dywedodd Rees fod Caeredin yn nhîm oedd yn ei gyffroi.
"Mae eu ffordd o chwarae'r gêm yn ffactor pwysig o ran fy niddordeb i ymuno â nhw," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012