Cyhoeddi adroddiad am gam-drin cartrefi plant yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Cartre' Bryn Estyn yn 1992Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r cartrefi gofal o dan sylw oedd Bryn Estyn yn Wrecsam

Mae disgwyl i adroddiad am gam-drin mewn cartrefi plant yn y gogledd gael ei gyhoeddi fore Llun 19 mlynedd wedi iddo gael ei gomisiynu.

Hen Gyngor Sir Clwyd gomisiynodd Adroddiad Jillings yn 1994 er mwyn ymchwilio i honiadau o gam-drin yng nghartrefi plant yr awdurdod.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu wedi i saith o bobl gael eu herlyn am droseddau yn ymwneud â cham-drin mewn cartrefi gofal. Yn eu plith roedd Dirprwy Bennaeth Cartref Bryn Estyn, Peter Howarth, a gafodd ei garcharu am 10 mlynedd.

Ond ni chafodd yr adroddiad ei gyhoeddi wedi i gwmni yswiriant y cyngor gynghori yn erbyn hynny oherwydd pryderon am achosion llys yn erbyn Cyngor Sir Clwyd.

Daeth y mater i sylw'r cyhoedd unwaith eto yn sgil sgandal Jimmy Savile yn 2012.

300 tudalen

Yn 1996 fe orchmynnodd Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, William Hague, y dylid cynnal ymchwiliad arall i'r mater o dan oruchwyliaeth Syr Ronald Waterhouse ac fe gyhoeddwyd ei adroddiad yntau - 'Ar Goll Mewn Gofal', dolen allanol - yn 2000.

Ond daeth galwadau o'r newydd y llynedd i gyhoeddi Adroddiad Jillings yn sgil honiadau na chafodd achosion cam-drin eu hymchwilio'n drylwyr ar y pryd.

Dywedodd Mr Jillings wrth y BBC fod y cam-drin ar raddfa eang lle oedd plant wedi eu hynysu.

"Nid oedd staff pencadlys yn ymweld yn rheolaidd neu, os oedden nhw, doedden nhw ddim yn drylwyr iawn.

"Felly roedd y staff ar eu pennau eu hunain gyda'r plant 99% o'r amser ...

"Roedden nhw'n meddwl bod y plant allan o reolaeth ac mai'r ateb oedd eu cam-drin.

"... ni chafodd y plant eu trin fel bodau dynol gan rai aelodau staff.

'Bu farw 10'

"Bu farw rhai, 10 ohonyn nhw. Lladdodd rhai eu hunain."

Pan fydd yr adroddiad 300 tudalen yn cael ei gyhoeddi mae disgwyl i rannau fod wedi eu golygu.

Dennis Parry oedd arweinydd Cyngor Sir Clwyd pan ddaeth yr adroddiad i law'r awdurdod ac fe ddywedodd ei fod yn falch iawn y byddai'r adroddiad yn gweld golau dydd o'r diwedd.

"Fe ddylai hyn fod wedi digwydd flynyddoedd yn ôl," meddai, gan ychwanegu ei fod yntau wedi bod o blaid cyhoeddi ar y pryd.

Roedd yn gobeithio hefyd na fyddai gormod o'r adroddiad yn cael ei gadw yn gyfrinachol gan y byddai hynny'n ei wneud "yn dda i ddim".

Cyngor cyfreithiol

Daeth gorchymyn gan rai o swyddogion yr hen gyngor sir i ddifa copïau o Adroddiad Jillings.

Ond ym mis Tachwedd 2012, fe ddywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint Colin Everett y byddai'n cyhoeddi'r adroddiad pe bai copi yn dod i'r fei.

Ychwanegodd y byddai'n rhaid i'r cyngor gael cyngor cyfreithiol tebyg i'r hyn a gafodd yr hen gyngor sir er mwyn gweld faint o'r adroddiad y byddai modd ei gyhoeddi.

Bydd copi o'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Wrecsam, dolen allanol am 9:00am fore Llun.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol