Carwyn Jones yn beirniadu'r 'hysteria' yn y cyfryngau

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones yn poeni y gallai digwyddiadau'r wythnos ddiwetha' atal rhagor o dystion rhag cyflwyno tystiolaeth

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod adroddiadau'r cyfryngau am y sgandal cam-drin yng ngogledd Cymru yn yr 1970au ac 80au fel "hysteria".

Dywedodd ei fod yn poeni am sut y deliodd y cyfryngau gyda'r honiadau ac y gallai hynny atal dioddefwyr rhag rhoi gwybod am eu profiadau yn y dyfodol.

Yn Sesiwn Holi'r Prif Weinidog, dolen allanol ddydd Mawrth, dywedodd: "Roedd yr hyn a welwyd yr wythnos ddiwetha' bron yn hysteria."

Mae'r sgandal wedi cael llawer iawn o sylw yn y cyfryngau wedi i ddioddefwr honni nad oedd y gwir i gyd wedi dod i'r amlwg.

Ar raglen Newsnight y BBC ar Dachwedd 2, honnodd Steve Messham fod gwleidydd Ceidwadol o gyfnod Thatcher wedi ei gam-drin.

Er na chyfeirwyd at unrhyw enw ar y rhaglen, arweiniodd hyn at bobl yn dyfalu yn anghywir ar y we mai'r dyn dan sylw oedd y cyn-drysorydd Ceidwadol, yr Arglwydd McAlpine.

Ymddiswyddiad

Fe wadodd yr arglwydd yr adroddiadau, gan ddweud eu bod yn "gwbl ffug ac yn ddifrïol ofnadwy".

Cyhoeddodd y BBC ymddiheuriad agored am adroddiad Newsnight ac fe ymddiswyddodd George Entwhistle fel cyfarwyddwr cyffredinol y gorfforaeth.

Mae'r darlledwr wedi cymryd camau disgyblu yn erbyn rhai o'r staff oedd yn rhan o'r penderfyniad i ddarlledu adroddiad Newsnight.

Dywedodd Mr Jones yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth ei bod yn "anffodus" fod rhan o dystiolaeth un tyst posib yn amlwg yn wallus.

"Ond dyw hynny ddim yn golygu, wrth gwrs, fod yr holl dystiolaeth newydd yn wallus," meddai.

"Yr hyn sydd yn fy mhoeni i yw y gallai digwyddiadau'r wythnos ddiwetha' atal pobl rhag cyflwyno tystiolaeth newydd gredadwy, nid yn unig yn ymwneud â Bryn Estyn ond cartrefi eraill hefyd.

"A byddai hynny'n golygu, wrth gwrs, ei bod hi'n fwy anodd dod o hyd i'r gwir am yr hyn ddigwyddodd yno ar y pryd ac ers hynny."