Carcharu am greulondeb i geffylau

  • Cyhoeddwyd
Tom PriceFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod 12 anifail wedi eu "gadael i farw" mewn sgubor

Mae bridiwr wedi ei garcharu am chwe mis a'i wahardd rhag cadw ceffylau am bum mlynedd am ei fod yn euog o 57 o gyhuddiadau'n ymwneud â lles anifeiliaid.

Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fod Tom Price, 48 oed o'r Wig ym Mro Morgannwg, wedi achosi dioddefaint diangen i 18 o geffylau.

Cafodd ei garcharu am wyth mis am dorri amodau gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd lle oedd ei geffylau'n pori.

Dywedodd Gethin Russell Jones o'r RSPCA mai hwn oedd "yr achos gwaetha' erioed" yng Nghymru.

'Gadael i farw'

Daethpwyd o hyd i'r ceffylau ar bum safle yn y de a chlywodd y llys fod 12 anifail wedi eu "gadael i farw" mewn sgubor ym Mhen-y-bont.

Mae'r RSPCA wedi amcangyfri ei fod yn berchen ar 2,500 o geffylau.

Cafwyd ei fab, Thomas Hope Price, 26 oed yn euog ym mis Mehefin.

'Ysgytwol'

Clywodd y llys fod yr amgylchiadau lle cadwyd cobiau yn "ysgytwol a dychrynllyd".

Gorchmynnodd y Barnwr Bodfan Jenkins y ddau i dalu costau o £43,000 yr un.

Roedd yr RSPCA wedi dod ar draws tystiolaeth o esgeulustod a dioddefaint diangen i geffylau yn ardal Pen-y-bont a Bro Morgannwg.

Cafodd Thomas Hope Price ddedfryd o 23 o wythnosau.