Byrddau iechyd i gomisiynu gwasanaethau ambiwlans
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog iechyd wedi cyhoeddi y bydd byrddau iechyd yn comisiynu gwasanaethau ambiwlans yn uniongyrchol yn y dyfodol.
Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi ystyried diddymu Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru'n llwyr ond ei fod wedi penderfynu y byddai hynny'n achosi gormod o aflonyddwch.
Yn lle hynny mae Mr Drakeford am sefydlu corff cenedlaethol fydd yn cynnwys cynrychiolaeth o'r saith bwrdd iechyd er mwyn contractio gwasanaethau ambiwlans gyda phrosesau ac amcanion clir.
Tan nawr mae'r gwasanaethau wedi bod yn cael eu comisiynu gan y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ond mae pryderon wedi cael eu codi ynglŷn â pherfformiad ambiwlansys.
Newid
Mae'r gwasanaeth wedi methu'r targed hanfodol o gyrraedd cleifion sydd angen cymorth brys o fewn wyth munud ym mhob un o'r 12 mis diwethaf.
Dywedodd Mr Drakeford fod yr adolygiad gafodd ei gynnal gan yr Athro Siobhan McClelland wedi darganfod problemau difrifol gyda'r gwasanaeth ac mai pwrpas y newidiadau oedd mynd i'r afael â'r problemau hynny.
"Darganfyddodd mai'r broblem sylfaenol yw bod y trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd ar gyfer gwasanaethau ambiwlans Cymru yn gymhleth, bod gormod ohonyn nhw a'u bod yn ddiffygiol o ran eglurder a chydymdeimlad," meddai Mr Drakeford.
"Mae datganiad heddiw yn rhoi strwythur mewn lle ar gyfer y dyfodol sydd yn syml, yn glir ac yn darparu gwell gwasanaeth i gleifion.
"Bydd y Sefydliad Cyflawni Cenedlaethol yn goruchwylio llif ariannol newydd uniongyrchol - bydd yr arian yn symud mewn un cam o'r byrddau iechyd fel prynwyr, i'r sefydliad sy'n darparu."
Cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei sefydlu yn 1999 ac mae wedi wynebu llawer o broblemau ers hynny.
Yn 2002 roedd rhaid iddynt ddychwelyd gwrth £40,000 o radios oherwydd eu bod yn gweithredu ar yr amledd anghywir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012