Dim achubiaeth i'r Barri a Llanelli

  • Cyhoeddwyd

Ni chafodd y penderfyniad i atal y Barri a Llanelli rhag chwarae yng nghynghrair Cymru ei ailystyried mewn cyfarfod oherwydd fe wrthododd y cyngor atal y rheolau sefydlog.

Cafodd y ddau glwb eu hatal rhag cystadlu yn nghynghrair Cymru yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Mehefin.

Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi galw am gyfarfod arbennig o'r cyngor, sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau yn ymwneud â hawl clybiau i gystadlu, er mwyn iddyn nhw ystyried tystiolaeth newydd ynglŷn â'r Barri a Llanelli.

Ond gwrthododd y cyngor drafod y mater - roedd angen i ddau allan o dri o'r rheini oedd yn bresennol bleidleisio o blaid atal y rheolau sefydlog er mwyn i hynny ddigwydd ond dim ond 14 allan o 29 wnaeth wneud hynny.

Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu â'r Gymdeithas Bêl-droed i gael ymateb ond doedd neb ar gael i wneud datganiad.

'Gwarthus'

Mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg Alun Cairns wedi disgrifio'r penderfyniad fel un "gwarthus".

Un arall sydd wedi beirniadu'r penderfyniad yw AS Plaid Cymru Jonathan Edwards - mae wedi galw am i Lywodraeth Cymru neu un o bwyllgorau'r Cynulliad gynnal ymchwiliad i strwythr llywodraethu pêl-droed yng Nghymru.

Mae rheolwr clwb y Barri Gavin Chesterton hefyd wedi galw am ymchwiliad, a dywedodd bod angen i gyngor y gymdeithas fod yn "llai ac yn fwy atebol".

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dweud eu bod nhw'n gandryll gyda'r penderfyniad mewn datganiad ar eu gwefan.

Y Cynghorydd Gwyn John yw'r aelod cabinet sy'n gyfrifol am Hamdden, Parciau, Diwylliant a Datblygu Chwaraeon a dywedodd: "Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gandryll o glywed nad yw'r FAW wedi newid eu meddwl ynglŷn â lle Tref y Barri yn y gynghrair.

"Rydym wedi sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r clwb ar y mater hwn o'r cychwyn, ac rydym am i'r chwaraewyr a'r rheolwr wybod y byddant yn parhau i gael ein cefnogaeth ddiysgog.

"Nid mater pêl-droed yn unig yw hyn - mae hefyd yn ymwneud a balchder y dref, ei ddyfodol a dyfodol ein pobl ifanc."