Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ailystyried
- Cyhoeddwyd
Mae clybiau pêl-droed y Barri a Llanelli yn gobeithio y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn newid eu penderfyniad i'w hatal rhag cystadlu yng nghynghrair Cymru'r flwyddyn nesaf.
Ers cyhoeddi'r penderfyniad fis diwethaf mae aelodau o bob un o'r prif bleidiau gwleidyddol Cymreig wedi beirniadu'r penderfyniad.
Eu dadl nhw, a dadl y Barri a Llanelli, yw y byddai gorfodi'r timau i chwarae mewn parciau'r flwyddyn nesaf yn niweidio'r clybiau a phêl-droed yng Nghymru.
Nid yw FA Cymru wedi esbonio'r penderfyniad er i'r BBC gysylltu gyda nhw sawl gwaith.
Llwyddiant
Mae'r Barri'n glwb sydd wedi profi llwyddiant sylweddol ers iddyn nhw ymuno â chynghrair Cymru yn hwyr yn 1993, ar ôl iddynt wrthod gwneud hynny'n wreiddiol.
Fe aethon nhw ymlaen i guro Uwch Gynghrair Cymru saith gwaith rhwng tymor 1995/96 a 2002/03 - dim ond unwaith fethon nhw â chyrraedd y brig yn y cyfnod yno.
Ond ni fuon nhw mor llwyddiannus wedyn o dan arweinyddiaeth y perchennog newydd Stuart Lovering, a'r flwyddyn hon fe aeth pethau o ddrwg i waeth wedi i Mr Lovering dynnu'r clwb o'r Adran Gyntaf gydag ond dwy gêm o'r tymor ar ôl.
Erbyn hyn pwyllgor y cefnogwyr sy'n gyfrifol am y clwb.
Cafodd clwb Llanelli ei ddirwyn ei ben wedi iddynt fynd i ddyled o ryw £20,000.
Fe wnaeth aelodau o gyngor FA Cymru bleidleisio yn erbyn gadael i'r ddau glwb chwarae yn system cynghrair Cymru'r flwyddyn nesaf.
Cynulliad
Mae'r mater wedi cael ei godi yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn y cynulliad yn yr wythnosau diwethaf, gydag Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn beirniadu'r penderfyniad yn hallt.
Yn ystod y sesiwn lawn ddydd Mawrth diwethaf, dywedodd AC Llanelli Keith Davies wrth siarad am y penderfyniad: "Mae gan hyn oblygiadau difrifol ar gyfer pêl-droed a'i datblygiad fel gêm ledled Cymru. Mae'r ddau dîm wedi cynrychioli Cymru yn Ewrop, mae eu hacademïau yn cynnig cyfleoedd i chwaraewyr ifanc ac mae ganddynt ddwy stadiwm na all pêl-droed Cymru fforddio i'w golli."
Mae Eluned Parrott yn aelod dros ganol de Cymru, ac fe wnaeth hi ategu'r hyn roedd Mr Davies yn ei ddweud: "Mae Llanelli a'r Barri wedi cael hwb gan y cyhoeddiad y bydd yn gyfarfod cyffredinol arbennig o'r FA Cymru wythnos i heddiw, ac yr wyf yn siŵr y byddwch yn ymuno â mi i alw am i'r ddau dîm gael cymryd eu lle haeddiannol yng nghynghrair Cymru'r tymor nesaf."
Yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas ddydd Sadwrn diwethaf, chafodd y gemau ddim eu trefnu - mae hyn wedi rhoi gobaith i'r ddau glwb bod siawns y gallan nhw gael eu cynnwys yn nhrydedd adran cynghrair Cymru.
Mae'r tymor nesaf yn fod i ddechrau ar ddydd Sadwrn 17 Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd8 Mai 2013