Galw am newid penderfyniad FA Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau pob un o'r prif bleidiau Cymreig wedi galw ar FA Cymru i ailystyried eu penderfyniad i atal Y Barri a Llanelli rhag cystadlu yng Nghynghrair Cymru.
Ymhlith yr aelodau mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru Jane Hutt, yr AS Ceidwadol Alun Cairns, ac Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae tri Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi galw ar FA Cymru i ailystyried ac wedi llofnodi'r cynnig yn Nhŷ'r Cyffredin ond mae gwleidyddion Cymreig eraill wedi mynegi eu hanfodlonrwydd.
Geiriad y cynnig yw: "[Rydym] yn gresynu at benderfyniad y Cyngor i wrthod aelodaeth FA Cymru i Dref y Barri Unedig ac AFC Llanelli, sy'n golygu na fydd gan yr un dref gynrychiolaeth o fewn pedair adran uchaf pêl-droed Cymru.
"Rydym yn galw ar Gyngor FAW i ailystyried y penderfyniad hwn yn unol â'u cynllun strategol ar gyfer pêl-droed Cymru."
Trydedd Adran
Tynnodd y cyn berchennog Stuart Lovering Y Barri o'r Adran Gyntaf gydag ond dwy gêm o'r tymor ar ôl.
Wedyn fe wnaeth pwyllgor cefnogwyr y clwb gymryd yr awenau, gan ddechrau clwb newydd o'r enw Tref y Barri Unedig.
Roedden nhw'n gobeithio parhau i chwarae yn yr Adran Gyntaf ond yn cydnabod bod posibilrwydd iddyn nhw chwarae yn y Drydedd Adran.
Ond fe benderfynodd Cyngor FA Cymru na fydden nhw'n cael ymuno â'r gynghrair genedlaethol o gwbl, gan ddweud wrthyn nhw i gysylltu gyda'u cymdeithasau ardal perthnasol.
'Ergyd'
Dywedodd Ms Hutt, Aelod Cynulliad Bro Morgannwg: "Rwyf wedi gweld ymroddiad cefnogwyr Clwb Pêl-droed y Barri sydd wedi cadw eu tîm yn fyw er gwaethaf yr anawsterau maen nhw wedi eu hwynebu.
"Mae'r penderfyniad hwn yn ergyd iddyn nhw ac i'r Barri."
Dywedodd Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Alun Cairns, nad oedd yn deall y penderfyniad.
"Hon yw blwyddyn canmlwyddiant y clwb ac mae'n 'gic' i'r pwyllgor cefnogwyr sydd wedi bod yn cynnal y clwb.
"Rwy'n bwriadu siarad â Phrif Weithredwr FA Cymru Jonathan Ford er mwyn gweld a yw'n bosib dadwneud y penderfyniad."
Dywedodd Eluned Parrott, Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, ar ei chyfri Twitter: "FA Cymru, os gwelwch yn dda, ailystyriwch eich penderfyniad i wrthod caniatáu i'r Barri gadw eu lle priodol yn y gynghrair."
Dim i'w ychwanegu
Fe wnaeth y BBC gysylltu gyda FA Cymru i ofyn am ddatganiad ond doedden nhw ddim am ychwanegu i'r hyn oedd ar eu gwefan.
Mae'r datganiad yn dweud: "Cynhaliodd Cyngor y Gymdeithas ei gyfarfod deufisol ym Metws-y-coed ddydd Iau Mehefin 13 2013.
"Ymhlith yr eitemau ar yr agenda oedd ceisiadau Tref y Barri a CPD Lanelli am aelodaeth lawn o CBDC ar gyfer tymor 2013-14.
"Aeth aelodau'r Cyngor ati i ystyried argymhelliad y dylai'r ddau glwb gael mynediad i Gynghrair Bêl-droed Cymru.
"Pleidleisiodd y Cyngor yn erbyn yr argymhelliad hwn.
"Mae'r ddau dîm wedi cael eu gorchymyn i wneud cais am aelodaeth i'w cymdeithasau ardal perthnasol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd8 Mai 2013
- Cyhoeddwyd21 Awst 2012