Cynnydd o 15% yn y gwartheg gafodd eu difa oherwydd y diciau

  • Cyhoeddwyd
Buwch
Disgrifiad o’r llun,

15% o gynnydd yn nifer y gwartheg gafodd eu difa oherwydd diciâu

Cafodd 9,307 o wartheg eu difa yng Nghymru yn ystod 2012 oherwydd y diciâu, yn ôl ystadegau newydd.

Mae'r ystadegau - a gafodd eu cyhoeddi gan Adran Materion Gwledig Llywodraeth San Steffan ddydd Mercher - yn golygu cynnydd o 15% ers 2011 a 22% ers 2010.

Dywedodd Undeb NFU Cymru fod yr ystadegau'n profi bod y diciâu'n "un o'r bygythiadau mwyaf i ffermwyr llaeth a chig eidion".

"Cafodd yr ystadegau eu cyhoeddi er gwaethaf y ffaith bod ffermwyr Cymru yn glynu wrth reolaeth lem iawn," meddai'r undeb.

Dywedodd dirprwy lywydd yr undeb, Stephen James, fod ffermwyr wedi colli dros 48,000 o wartheg dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Dileu'r afiechyd

"Mae'r ffigyrau yn dangos na fydd y polisi taclo'r afiechyd ymhlith poblogaeth bywyd gwyllt yn dileu'r afiechyd yn llwyr o gefn gwlad wrth iddo barhau i gynyddu.

"Fe ddylai'r ystadegau fod yn alwad i Lywodraeth Cymru fod angen gweithredu drwy reoli moch daear drwy bolisi gwyddonol yn hytrach na pholisi o frechu."

Gofynnwyd am ymateb Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Antoinette Sanbach, llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion gwledig: "Mae'r cynnydd yng Nghymru ddwywaith yn fwy na'r un yn Lloegr.

"Difa ydi'r unig ffordd sydd wedi ei brofi i daclo'r sefyllfa ond eto mae hyn wedi ei wrthod gan weinidogion Llafur am resymau gwleidyddol nid gwyddonol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol