Undeb: Mesurau diciâu gwartheg yn 'crogi ffermio'

  • Cyhoeddwyd
Mochyn daearFfynhonnell y llun, Science
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y rhaglen brechu moch daear yn gynharach eleni

Mae undeb ffermwyr yn honni bod mesurau rheoli gwartheg "llym", i geisio cael gwared â TB mewn gwartheg, yn "crogi'r diwydiant ffermio".

Yn ôl NFU Cymru, mae ffermwyr llaeth a ffermwyr cig eidion yng Nghymru yn wynebu "trafferthion enbyd".

Dywed yr undeb y dylai'r gwaith i atal diciâu gwartheg rhag lledu fod yn gytbwys â rhedeg busnes gwartheg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydweithio â ffermwyr i geisio eu helpu.

Roedd y bwriad i ddifa moch daear yng Ngogledd Sir Benfro a rhannau o Sir Gâr a Cheredigion yn rhan o ymgais y llywodraeth flaenorol - clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru - i atal TB mewn gwartheg.

'Cost anferth'

Ond ym mis Mawrth eleni dywedodd Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, ei fod am gyflwyno cynllun brechu ar ôl ystyried tystiolaeth wyddonol yn ofalus.

Dywed NFU Cymru eu bod yn bryderus ynghylch y newidiadau a'u bod yn anhapus bod ffermwyr sydd â buwch sy'n cael ei hamau o fod â'r diciâu yn methu â phrynu gwartheg am o leia' ddeufis.

Dim ond ar ôl asesiad risg gan filfeddyg y gellir symud gwartheg i fferm sydd o dan gyfyngiadau TB, a bydd prawf yn cael ei gynnal 60 diwrnod wedi i anifail sydd wedi'i heintio adael y fferm.

"Gall hyn fod yn gost anferth i ffermwyr llaeth sy'n colli buchod llaeth da, gan golli'n ariannol oherwydd nad ydynt yn cynhyrchu digon o laeth," meddai Andrew Lewis, cadeirydd NFU Cymru Sir Benfro.

Er bod y newidiadau wedi eu cyflwyno oherwydd cyfarwyddyd gan yr Undeb Ewropeaidd, ychwanegodd Mr Lewis fod NFU Cymru yn brwydro am "fwy o gytbwysedd" rhwng mesurau rheoli a rhedeg busnes gwartheg.

Rheolau Ewropeaidd

"Rydym yn credu y dylai ffermwyr gael y cyfle i weithio'n agos gyda milfeddygon eu hunain i alluogi anifeiliaid newydd i gael eu symud i'w ffermydd heb iddynt orfod aros deufis ar ôl asesiadau risg a chaniatâd cyfleusterau gwahaniad addas ar y fferm," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: " Mae'r newidiadau diweddar o ganlyniad i gyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd.

"Maent yn cael eu gweithredu yng Nghymru a Lloegr a'u nod yw lleihau'r risg o ledu haint yn ystod cyfnod pan mae gyr o wartheg mewn peryg uchel.

"Ond rydym yn gweithio i leihau'r amser pan mae'r ffermydd o dan gyfyngiadau gan ail ystyried y rheolaeth o ddiciâu gwartheg.

"Rydym yn cytuno fod angen cyngor milfeddygol arbenigol ar ffermwyr pan eu bod yn delio â diciâu gwartheg ac rydym yn cydweithio â sefydliadau sy'n cynrychioli ffermwyr a byrddau difodiad rhanbarthol i ystyried y ffordd orau i gynyddu'r lefel o gefnogaeth unigol i ffermwyr yn ystod cyfnod anodd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol