Achos marwolaethau 'heb ei gadarnhau'
- Cyhoeddwyd
Dywed yr heddlu y bydd angen cynnal mwy o brofion wedi marwolaethau dau filwr ym Mannau Brycheiniog.
Bu farw Edward John Maher a'r Isgorporal Craig Roberts wedi iddyn nhw gymryd rhan mewn hyfforddiant ar gyfer cael eu dewis i'r SAS ar fynydd Pen y Fan.
Mae milwr arall, oedd hefyd yn cymryd rhan yn yr hyfforddiant, yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Wrth roi tystiolaeth yn y cwest yn y llys yn Aberhonddu, dywedodd y Ditectif Arolygydd Ieuan Wyn Jones fod marwolaeth Craig Roberts wedi ei gofnodi ar y mynydd am 17:15.
Dywedodd fod Mr Maher wedi marw yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful bron i deirawr yn ddiweddarach.
Ychwanegodd fod archwiliadau post mortem wedi eu cynnal a bod achos y marwolaethau heb ei gadarnhau:
"Mae ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal."
Diwrnod poeth
Bu farw'r ddau filwr ar un o ddiwrnodau poetha'r flwyddyn, gyda'r tymheredd yn cyrraedd rhyw 30C mewn rhannau o Bowys.
Roeddent yn cymryd rhan mewn hyfforddiant yn ardal Pen y Fan, lle sy'n adnabyddus fel y lleoliad am y "Fan Dance" - ymarfer lle mae milwyr yn cerdded dros y mynydd yn cario bagiau trwm a reiffl cyn troi rownd a cherdded yn ôl.
Roedd Mr Roberts, yn wreiddiol o Fae Penrhyn yng Nghonwy, wedi bod yn aelod o'r Fyddin Diriogaethol am tua phum mlynedd ac roedd wedi gwasanaethu yn Irac ac Afghanistan yn ôl adroddiadau.
Bu'n byw yn Llundain ac roedd ar fin dechrau swydd newydd yn swyddfa'r ysgrifennydd addysg.
Dywedodd ei dad Kelvin Roberts: "Hoffwn ddiolch fel teulu, i holl ffrindiau Craig a'n ffrindiau ni am eu cefnogaeth.
"Mae colli Craig wedi gadael twll enfawr yn ein bywydau ni i gyd.
"Roedden ni yn gwbl gefnogol o'i ymdrechion yn y fyddin ac mae'n rhoi rhywfaint o gysur, ond hefyd tristwch mawr, ei fod wedi marw wrth ddilyn ei freuddwyd.
"Roedd Craig ar fin dechrau swydd newydd yn swyddfa'r Gweinidog Addysg fis nesaf, ac roedden ni i gyd yn falch iawn ohono.
"Hoffwn ddiolch i'r Weinyddiaeth Amddiffyn am eu cymorth a chefnogaeth dros y cyfnod anodd yma."
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd wedi cyhoeddi enw'r ail filwr a fu farw ar y Bannau.
Dywedodd llefarydd: "Gyda thristwch mawr gall y Weinyddiaeth gadarnhau marwolaeth Edward John Maher, milwr wrth gefn, wrth ymarfer ym mannau Brycheiniog ar 13eg o Orffennaf."
"Rydym ni'n meddwl am ei deulu a'i ffrindiau yn ystod yr adeg anodd yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2013