Babi brenhinol: George yw'r enw

  • Cyhoeddwyd
Babi brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

bu llawer o ddyfalu ynglŷn â beth fydd enw'r bachgen brenhinol

Cyhoeddodd Palas Kensington mai George Alexander Louis yw enw mab Dug a Duges Caergrawnt.

Y plentyn gafodd ei eni ddydd Llun yw'r trydydd olynydd i'r Goron, ar ôl y Tywysog Charles a'r Tywysog William.

Fe fydd yn cael ei adnabod fel Eich Uchelder Brenhinol, Tywysog George o Gaergrawnt

Credir i'r Frenhines gael gwybod am yr enw ddydd Mercher, pan y gwnaeth hi gwrdd â'i gor-ŵyr am y tro cyntaf.

George oedd y ffefryn ymhlith y bwcis.

Mae'n draddodiad i'r teulu brenhinol ddewis enw traddodiadol.

Er hyn ni fydd yn rhaid i'r tywysog ddefnyddio'r enw George pan ddaw yn frenin pe na bai'n dymuno.

Tad y Frenhines oedd Geroge VI, ond ei enw cyntaf oedd Albert, ac roedd y teulu yn ei andobod fel Bertie.

Diolch

Cafodd genedigaeth y Tywysog George ei groesawu gyda saliwt gan Fagnelwyr Brenhinol yn Nhŵr Llundain a Green Park brynhawn ddydd Mawrth, tra bod clychau Abaty San Steffan wedi canu yn arbennig i'r babi newydd hefyd.

Heidiodd miloedd o bobl i Balas Buckingham nos Lun, gyda nifer am geisio cael cip ar yr hysbysiad swyddogol yn cyhoeddi genedigaeth bachgen am 16:24, yn pwyso wyth pwys a chwe owns.

Dywedodd y Tywysog William na allai'r cwpwl fod yn hapusach.

Arhosodd dros nos yn yr ysbyty gyda'i wraig a'i fab.

Ffynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,

Crïwr y dref Tony Appleton yn cyhoeddi'r newyddion tu allan i'r ysbyty