Rhybudd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn
- Cyhoeddwyd
Mae crwner sy'n ymchwilio i farwolaethau dau filwr yn ystod hyfforddiant ar gyfer yr SAS wedi rhybuddio'r Weinyddiaeth Amddiffyn y gallan nhw wynebu ymchwiliad o dan y Ddeddf Hawliau Dynol.
Bu farw Edward John Maher a'r Isgorporal Craig Roberts wedi iddyn nhw gymryd rhan mewn hyfforddiant ar ddiwrnod poeth ym Mannau Brycheiniog.
Dyw achos y marwolaethau heb gael ei gadarnhau eto.
Dywedodd y crwner Lousie Hunt y byddai "hawl i fyw" yn elfen bwysig o'r cwest.
"Mae gan y wladwriaeth ddyletswydd i amddiffyn bywyd unigolion," meddai.
"Be sy'n bwysig o ran edrych ar amgylchiadau ehangach y marwolaethau yw bod Erthygl Dau o'r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhan o'r ystyriaethau.
"Bydd rhaid i unrhyw ddyfarniad gynnwys ffaeleddau, os ydynt yn cael eu darganfod."
Dywedodd Ms Hunt nad oedd y cwest yn un "cyffredin" ac y byddai rhaid i'r dyfarniad fod yn annibynnol gyda chyfranogiad llawn teuluoedd yr ymadawedig.
"Hoffwn hefyd roi ar y record fy nghydymdeimlad dwfn i'r ddau deulu," ychwanegodd.
Clywodd y cwest fod y ddau ddyn wedi marw ar 13 o Orffennaf wrth i'r tymheredd gyrraedd bron i 30C.
Mae un milwr arall yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2013