Bannau Brycheiniog: Trydydd milwr wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Milwyr
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Craig Roberts ac Edward John Maher wrth ymarfer ar Fannau Brycheiniog

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod trydydd milwr wedi marw o'i anafiadau wedi ymarferiad ar Fannau Brycheiniog ar y 13eg o Orffennaf.

Roedd wedi bod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ers iddo fynd i drafferthion wrth geisio dod yn rhan o'r fyddin diriogaethol.

Bu farw dau filwr arall, Craig Roberts, 24, ac Edward John Maher, 31 wrth i'r tymheredd gyrraedd 29.5C yn ystod yr ymarfer ar 13eg o Orffennaf.

Ddydd Mawrth, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod trydydd milwr wrth gefn wedi marw.

Mewn datganiad, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn:

"Gyda thristwch gallwn gadarnhau bod trydydd milwr wrth gefn a gafodd ei anafu yn ystod ymarferiad ar Fannau Brycheiniog wedi marw o'i anafiadau."

Dywedodd y weinyddiaeth bod y teulu wedi gofyn am beidio a rhyddhau enw'r milwr ar hyn o bryd.

Ymchwiliad

Mae ymchwiliad wedi ei hagor i ddarganfod beth ddigwyddodd, ac mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi eu rhybuddio y gallen nhw wynebu ymchwiliad o dan y Ddeddf Hawliau Dynol.

Cafodd y cwest i farwolaethau Craig Roberts ac Edward Maher ei ohirio.

Roedd y milwyr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant yn ardal Pen y Fan.

Roedd Mr Roberts, yn wreiddiol o Fae Penrhyn yng Nghonwy, wedi bod yn aelod o'r Fyddin Diriogaethol am tua phum mlynedd ac roedd wedi gwasanaethu yn Irac ac Afghanistan yn ôl adroddiadau.

Bu'n byw yn Llundain ac roedd ar fin dechrau swydd newydd yn swyddfa'r ysgrifennydd addysg.

Roedd y dynion ymysg chwech o filwyr gafodd eu hachub oddi ar y mynydd ar y diwrnod hwnnw.