Mwy yn gwrando ar Radio Cymru a Radio Wales

  • Cyhoeddwyd
Georgia Ruth
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhaglenni gan gyflwynwyr fel Georgia Ruth yn boblogaidd ymysg pobl ifanc

Mae'r ffigyrau Rajar diweddaraf yn dangos bod 22,000 yn fwy o bobl wedi bod yn gwrando ar Radio Cymru yn ddiweddar, tra bod BBC Radio Wales wedi denu'r nifer ucha' o wrandawyr mewn chwe blynedd.

Ar gyfartaledd, roedd 141,000 o bobl wedi gwrando ar Radio Cymru yn wythnosol yn ystod y chwarter diwetha', tra bod Radio Wales yn cyrraedd cynulleidfa o 499,000.

Mae'r niferoedd sy'n gwrando ar Radio Cymru yn wythnosol wedi cynyddu dros 18% ers y chwarter blaenorol, pan oedd nifer y gwrandawyr yn 119,000 pob wythnos ar gyfartaledd.

Mae'r ffigurau diweddara' ymhlith yr ucha' dros y ddwy flwyddyn ddiwethaf, ac yn llawer iachach na'r ffigwr blaenorol, a oedd yn dangos fod nifer y gwrandawyr wedi disgyn i'w lefel isaf erioed.

Mae golygydd rhaglenni Radio Cymru Betsan Powys wedi croesawu'r ffigyrau, ac mae'n gwahodd pobl i gyfrannu at ymgynghoriad yr orsaf - Y Sgwrs Fawr.

Yn ystod y cyfnod pan welwyd y ffigyrau isel y chwarter diwethaf, doedd gan Radio Cymru ddim hawl i chwarae cerddoriaeth rhai artistiaid Cymraeg am rai wythnosau.

Roedd hyn oherwydd anghydfod rhwng y BBC a'r asiantaeth gerddorol Eos ynglŷn â thal i artistiaid.

Mae'r ddadl yn parhau a bydd tribiwnlys hawlfraint yn cael ei gynnal yn ystod yr hydref i geisio dod i gytundeb.

Yn y cyfamser, mae'r tribiwnlys wedi pennu ffi dros dro, dolen allanol fel bod gwaith y cerddorion Cymraeg sydd wedi ymuno ag Eos yn cael ei chwarae ar yr orsaf yn y cyfamser.

'Gwaith caled'

Er i Betsan Powys groesawu'r cynnydd yn nifer y gwrandawyr, mae hi'n cydnabod hefyd bod yr orsaf yn dal i wynebu heriau.

"Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd i dîm Radio Cymru ac mae'r ffigurau hyn yn deyrnged i'w gwaith caled a'u dyfalbarhad," meddai.

"Ond mae nifer o heriau yn parhau, yn eu plith y newidiadau cymdeithasol ac ieithyddol a amlinellwyd yn y cyfrifiad diweddaraf.

"Rwy'n falch fod cymaint o'n gwrandawyr, a'r rheiny sydd bellach ddim yn gwrando, wedi ymateb i Sgwrs Radio Cymru, sy'n gwahodd gwrandawyr i rannu eu barn ar bob agwedd o'r orsaf ac rwy'n edrych ymlaen at astudio manylion y canfyddiadau.

"Fy uchelgais yw sicrhau bod Radio Cymru yn parhau i gynnig gwasanaeth llwyddiannus a bywiog am flynyddoedd i ddod ac mae ffigurau heddiw yn gam bach ond calonogol i'r cyfeiriad iawn."

Wrth ymateb i'r cynnydd yn nifer gwrandawyr Radio Wales, dywedodd golygydd yr orsaf, Steve Austins:

"Rwyf wrth fy modd gyda'r canlyniadau hyn, sy'n dangos fod y newidiadau sylweddol a wnaethon ni i'r rhaglen yr hydref diwetha' yn amlwg wedi plesio'r gwrandawyr.

"Maent hefyd yn deyrnged i staff talentog Radio Wales, sy'n gweithio'n galed ac yn ceisio sicrhau'r ansawdd gorau ym meysydd newyddiaduraeth, chwaraeon, y celfyddydau a rhaglenni ffeithiol."

Hefyd gan y BBC