Llai'n gwrando

  • Cyhoeddwyd
Stiwdio radioFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ffigyrau gwrando 17,000 na'r un cyfnod yn 2012

Gostyngodd ffigurau gwrando Radio Cymru i'w lefel isaf erioed yn ystod chwarter cyntaf 2013.

Yn ôl ffigyrau gwrando swyddogol Rajar, dim ond 119,000 o bobol oedd yn gwrando ar yr orsaf bob wythnos - 3,000 yn llai na'r isafswm blaenorol.

Roedd cyfanswm y gwrandawyr wythnosol 6,000 yn llai nac yn y chwarter blaenorol a 17,000 yn llai nac yn ystod chwarter cyntaf y llynedd.

Roedd gwrandawyr yn gwrando llai ar yr orsaf hefyd. Ar gyfartaledd roedd gwrandawyr Radio Cymru yn gwrando am ychydig dros naw awr yr wythnos, awr yn llai nac yn y chwarter blaenorol.

Newidiadau

Mae'r chwarter yn cynnwys y cyfnod pan nad oedd Radio Cymru yn gallu darlledu rhan helaeth o'i cherddoriaeth arferol oherwydd yr anghydfod rhwng y BBC a'r asiantaeth gerddorol EOS.

Rhain hefyd yw'r ffigyrau gwrando cyflawn cyntaf ers i'r orsaf gyflwyno newidiadau sylweddol i'w hamserlen.

Yn ddiweddar dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies fod angen i Radio Cymru adlewyrchu bywyd Cymru fel y mae - "nid fel yr hoffem iddo fod, neu sut ry'n ni'n dychmygu yr arferai fod."

Cyhoeddodd fod yr orsaf yn lansio "sgwrs" genedlaethol ar ddyfodol Radio Cymru, gan wahodd gwrandawyr a sefydliadau i rannu eu barn ar yr orsaf a'i dyfodol.

'Sialensau'

Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales:

"Yn amlwg, mi ydan ni'n siomedig efo'r ffigyrau, mi ydan ni'n bryderus ac yn eu cymryd nhw o ddifri'... Doedd y ffigyrau ddim yn gyfan gwbl annisgwyl, mi oedden nhw ar gyfer cyfnod anodd, a chyfnod o newidiadau sylweddol.

"Mae'r sialensiau yn niferus o ran yr orsaf: Yn amlwg mae'r cyfrifiad yn rhywbeth 'da ni'n gorfod edrych arno fo, o ran y newid demograffig, y newid patrymau ieithyddol, y ffaith fod yna lai o gartrefi uniaith Gymraeg, y ffaith bod rhai o blant yn siarad Cymraeg rhugl... Yn amlwg mi ydan ni'n gorfod edrych ar y math o raglenni a gneud yn siŵr bod y rhaglenni'n berthnasol ac yn gyfoes ac yn apelio at ein gwrandawyr ni.

"Rydan ni'n neud lot fawr o ymchwil ar y funud - dwi'n meddwl y gwaith ymchwil mwyaf manwl sydd erioed wedi cael ei wneud i Radio Cymru - ac mae hynny'n golygu ein bod ni'n holi gwrandawyr, cyn- wrandawyr, pobl sydd erioed wedi gwrando yn fanwl iawn iawn, ac mi fyddwn ni'n edrych yn ofalus iawn ar y sylwadau ac ar yr ymchwil yna.

"Mi oedd cyfnod Eos yn gyfnod anodd i ni fel gorsaf. Dwi ddim yn meddwl y gallwn ni roi'r bai ar Eos am y ffigyrau yma... Dwi yn meddwl bod anghydfod Eos wedi esgor ar drafodaeth gyhoeddus ar y gwasanaeth... trafodaeth rydan ni nawr yn ei chynnal trwy ffurf y Sgwrs a'r gwaith ymchwil 'da ni'n ei wneud.

"Beth sydd yn galonogol, mae gynnon ni dimau cynhyrchu sy'n gweithio'n galed iawn, cyflwynwyr sy'n gweithio'n galed iawn ac sydd ag ymroddiad i'r orsaf, a dwi'n meddwl beth sy'n galonogol o'r Sgwrs ac a'r ymchwil, ydi mae pobl yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth 'da ni'n gynnig, mae yna nifer yn gwerthfawrogi nifer o'r rhaglenni, ac mi ydan ni wedi cael ymatebion gan nifer o ddysgwyr sy'n gwrando.

"Felly, oes mae yna wersi pwysig, mae'r heriau yn rhai amlwg, ond mae yna werthfawrogiad o nifer o'r rhaglenni o safon 'da ni'n cynhyrchu."

"Mae rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb am unrhyw ostyngiad ac am unrhyw wasanaeth, mi ydw i'n gweithio'n agos iawn efo timau cynhyrchu, ac efo gwahanol adrannau, mae gynnon ni gwmniau annibynnol sydd hefyd yn cyfrannu i'r orsaf a dyna pam bod ni'n cynnal y sgwrs eang yma rwan...

"Dwi'n diolch i bobl sydd eisoes wedi bod yn rhan o'r sgwrs, ac yn rhan o'r ymchwil. Ond mi fyddwn i'n annog mwy o bobl i fod yn rhan o'r drafodaeth rwan, i roi eu barn yn ddiflewyn ar dafod."

'Ffigyrau cryf'

Roedd 'na newyddion gwell gan Rajar ynghylch perfformiad Radio Wales.

Yn ôl yr arolwg roedd gan yr orsaf 462,000 o wrandawyr wythnosol, 26,000 yn fwy nac yn y chwarter blaenorol.

Dywedodd Golygydd Radio Wales, Steve Austins:

"Rydym wrth ein boddau gyda'r ffigyrau cryf yma. Dyma gyfnod lle bu newidiadau mawr i amserlen Radio Wales, newidiadau sydd yn amlwg wedi ennill eu plwyf yn gyflym ac yn llwyddiannus.

"Mae ein llwyddiant yn ystod y chwe mis diwethaf yn deyrnged i lawer o waith caled gan staff ar draws yr orsaf ac yn arwydd o gefnogaeth i'r newid mwyaf i'r amserlen a welodd yr orsaf mewn dros ddegawd.

"Rwy'n arbennig o falch bod ein cyfran o wrandawyr wedi cynyddu, er gwaethaf y ffaith fod y gystadleuaeth yn arbennig o ffyrnig.

"Wedi dweud hynny, ni ddylem fod yn hunanfodlon. Byddwn yn edrych yn ddyfnach i mewn i'r ffigurau hyn fel ein bod yn deall yn llawn yr hyn y mae gwrandawyr yn ei ddweud wrthym a byddwn yn edrych i gryfhau ymhellach ar ansawdd ein cynnyrch."

Radio 2 yw gorsaf radio fwyaf poblogaidd Cymru gyda Radio 1 yn dynn wrth ei sodlau.