UKIP: 'Ar y ffordd i fyny'
- Cyhoeddwyd
Mae UKIP wedi dweud eu bod yn hyderus o gael aelod cynulliad yn yr etholiad nesaf, wedi i Nathan Gill ddod yn drydydd yn isetholiad Ynys Môn.
Cafodd UKIP 14% o'r bleidlais, yn agos iawn at y blaid Lafur oedd yn ail gyda 16%. Plaid Cymru sydd wedi cadw'r sedd.
Ond roedd hi'n noson wael i'r Ceidwadwyr, wrth iddyn nhw ddisgyn i'r bedwerydd safle, gyda llai 'na 9% o'r bleidlais.
'Ar y ffordd i fyny'
Dywedodd ymgeisydd UKIP, Nathan Gill bod y canlyniad "ffantastig" yn dangos fod ei blaid "ar y ffordd i fyny".
"Roedden ni'n dilyn Llafur yr holl ffordd. Roedden ni wir yn meddwl y bydden ni'n cael yr ail safle. Hapus iawn," meddai wrth BBC Cymru.
"Mae pobl wedi syrffedu hefo'r un peth droeon. Maen nhw eisiau rhywbeth gwahanol.
"Ond roedd pobl yn edrych ar y darlun mwy hefyd, ymhellach 'na'r etholiad cynulliad.
"Roedden nhw'n edrych ar faterion fel mewnfudiad, materion am bobl yn dod yma i weithio.
"Y ffaith yw nad oes gwaith yma ar yr ynys. Mae pobl wir yn pryderu."
'Symud ymlaen'
Hyd yn hyn dydy UKIP heb lwyddo i ennill sedd yn y cynulliad, ond dywedodd Mr Gill bod y canlyniad yn galonogol:
"Rydym ni'n symud ymlaen yn wych. Rydym ni'n sicr y bydd ein haelodau yn cael eu hethol i'r cynulliad yn 2016."
Dywedodd Mr Gill fod y canlyniad yn dangos bod Ynys Môn yr un mor amheus o aelodaeth Prydain yn Ewrop ag unman arall ym Mhrydain.
Roedd hi'n noson siomedig i'r Ceidwadwyr nos Iau, wrth i Neil Fairlamb gael llai na 9% o'r bleidlais, gostyngiad o 20% ar ganlyniad y Ceidwadwyr yn yr etholiad diwethaf yn 2011.
Mewn etholiadau lleol ar Ynys Môn ym mis Mai, roedd gan UKIP ymgeiswyr ym mhob ward ar yr ynys.
Er i'r blaid fethu ag ennill unrhyw sedd, cawson nhw 7% o'r bleidlais, mwy na'r Ceidwadwyr gafodd 6%.
Mae'r canlyniadau yn adlewyrchu perfformiad gwell UKIP mewn etholiadau lleol yn Lloegr eleni hefyd.
Ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Steve Churchman ddaeth yn olaf gyda 309 o bleidleisiau, y tu ôl i'r Blaid Lafur Sosialaidd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2013
- Cyhoeddwyd1 Awst 2013