'Swyddi o safon': Blaenoriaeth AC newydd Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Rhun ap Iorwerth gyda ei deulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth dyngu llw yn y Senedd ddydd Gwener

Creu swyddi o safon uchel fydd un o flaenoriaethau Aelod Cynulliad newydd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth.

Croesawyd Mr ap Iorwerth i'r Senedd gan gefnogwyr a staff Plaid Cymru pan gyrhaeddodd ym Mae Caerdydd i dyngu'r llw fel aelod newydd brynhawn ddydd Gwener.

Nos Iau fe enillodd ymgeisydd Plaid Cymru'r isetholiad cynulliad wedi i Ieuan Wyn Jones ddweud ym mis Mehefin y byddai yn camu i lawr.

Wrth siarad ar y Post Cyntaf fore Gwener, dywedodd y cyn ddarlledwr fod angen gwaith wnaiff wneud i bobl aros ar yr ynys:

"Mae angen mynd i'r afael, nid yn gymaint â diweithdra, er bod hynny yn broblem amlwg, ond lefelau cyflogau yn benodol. Pan 'dan ni'n sôn am greu swyddi, rydan ni'n sôn am greu swyddi o safon uchel sy'n talu'n dda.

"Y math o swyddi y gall pobl ifanc ar yr ynys yn y dyfodol adeiladu eu bywydau nhw o'u cwmpas nhw a dod yn ôl yma i fyw, y rhai sydd wedi gadael, i aros yma, achos allwn ni ddim fforddio colli ein talent ifanc ni."

Wylfa

Dywedodd mai dim ond Plaid Cymru wnaeth rhoi'r 'gefnogaeth gyfrifol' i ddatblygiad Wylfa B yn ystod yr ymgyrch: "...beth allwn ni wneud o ran datblygu swyddi ond cario ymlaen i ofyn y cwestiynau pwysig ynglŷn â'r materion hynny sydd yn pryderu pobl o bob plaid," ac roedd yn gwrthod yr honiad ei fod yn dilyn ei agenda ei hun gan fod y blaid yn ganolog yn gwrthwynebu ynni niwclear.

Yn ôl y cyn newyddiadurwr, rhan o ddyfodol economaidd yw Wylfa B ac fe fydd angen edrych ar feysydd eraill, megis ynni adnewyddol, hefyd. Dywedodd fod Plaid Cymru yn awyddus i sicrhau bod cytundebau o'r sector cyhoeddus yn cael eu rhoi i gwmnïau lleol am fod gormod ohonynt yn cael eu rhoi i gwmnïau'r tu allan i Gymru.

Llwyddodd Plaid Cymru i ennill ym Môn gyda mwyafrif o fwy na 42%, neu 9166 o bleidleisiau. Llafur ddaeth yn ail er bod UKIP o fewn ychydig gannoedd o bleidleisiau i'w curo.

Roedd hi yn 'noson i'w chofio' meddai Rhun ap Iorwerth: "Mi oedd pobl Ynys Môn yn amlwg wedi cymryd ein neges bositif ni at eu calonnau nhw ac yn teimlo yn amlwg yn barod i roi eu ffydd ynof i ac ym Mhlaid Cymru i warchod eu buddiannau nhw yn y blynyddoedd nesaf yn y Cynulliad Cenedlaethol."

Er bod cwestiynau wedi codi yn syth ar ôl iddo ennill ynglŷn â phryd y byddai yn ceisio cipio'r awenau a dod yn arweinydd y blaid, dywedodd fod Leanne Wood wedi chwarae rhan allweddol yn y fuddugoliaeth ac mae'r hyn fydd yn bwysig iddo ef yw cynrychioli pobl o, "fy nghymuned fy hun".