Warburton: Dim brys i arwyddo

  • Cyhoeddwyd
Sam WarburtonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae cytundeb presennol y blaenasgellwr yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2013-14.

Dywed Capten y Llewod Sam Warburton nad oes yna unrhyw frys iddo arwyddo cytundeb newydd gyda'r Gleision.

Mae cytundeb presennol y blaenasgellwr yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2013-14.

"Mae 12 mis ar ôl o'r cytundeb, sy'n dipyn o amser, felly mae yna dymor cyn bod yn rhaid gwneud penderfyniad," meddai.

"Oherwydd ein bod wedi bod ar daith gyda'r Llewod roedd y ffocws gyda'r Llewod.

Trafodaethau

"Ers dod yn ôl rwyf wedi cael amser tawel, ac wedi treulio amser gyda'r teulu.

"Rydym yn ôl gyda'r Gleision yr wythnos nesa, a dyna pryd y byddaf yn gallu canolbwyntio ar y tymor newydd a'r dyfodol.

"Mae'n siŵr y bydd trafodaethau yn dechrau rhywbryd yn ystod y tymor."

Fe wnaeth Warburton golli gêm olaf y Llewod oherwydd anaf i'w goes.

Un arall o sêr y Llewod yw'r cefnwr Lee Halfpenny.

Mae ei gytundeb ef hefyd yn dod i ben ddiwedd y tymor nesa, tra bod y canolwr Jamie Roberts eisoes wedi penderfynu gadael y Gleision ac ymuno gyda Racing Metro.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol