North yn arwyddo cytundeb yn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad o'r diwedd am y gyfrinach waethaf ym myd rygbi wrth i glwb Northampton gyhoeddi bod asgellwr Cymru George North wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda nhw.
Roedd sibrydion ar led ers tro bod North ar fin symud o'r Scarlets i'r clwb o Loegr, gan arwain at ffrae enfawr rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau.
Roedd yr undeb wedi honni bod y Scarlets wedi dechrau trafodaethau i werthu'r asgellwr George North cyn rhoi gwybod i'r chwaraewr.
Arweiniodd hynny at ddadlau am gytundebau canolog i chwaraewyr rhyngwladol Cymru, rhywbeth y mae nifer o wledydd eraill eisoes yn ei wneud.
Gwrthod
Mae'r undeb wedi gwahodd y rhanbarthau am drafodaethau ar y mater, gyda'r undeb yn awyddus i ystyried pob opsiwn ond mae'r rhanbarthau wedi gwrthod y cynnig gan fynnu y dylid cynnal trafodaethau drwy'r Panel Rygbi Proffesiynol.
Yn 20 oed mae record North yn un heb ei hail.
Sgoriodd gais ym mhob yn ail gêm yn ei gyfnod gyda'r Scarlets, ac ef yw'r ieuengaf i sgorio dau gais rhyngwladol yn erbyn un o brif wledydd rygbi'r byd (De Affrica) yn ei gêm gyntaf i Gymru.
North hefyd yw'r chwaraewr ieuengaf i sgorio cais yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
Dywedodd cyfarwyddwr rygbi Northampton, Jim Mallinder: "Mae George yn dalent aruthrol, ac rydym yn edrych ymlaen at ei gael yn rhan o'r garfan y tymor nesaf.
"Er ei fod yn dal yn nyddiau cynnar ei yrfa, mae wedi dangos yn gyson fod ganddo'r gallu i lwyddo ar y lefel uchaf, ac rydym yn credu y bydd yn chwarae rôl flaenllaw wrth i ni geisio datblygu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2013