Rhestr hir

  • Cyhoeddwyd
Dylan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwobr Dylan Thomas ei sefydlu i annog awduron ifanc i ysgrifennu

Mae'r rhestr hir o enwebiadau ar gyfer Gwobr Dylan Thomas wedi ei gyhoeddi.

Mae'r rhestr o 12 yn cynnwys drama am y tro cyntaf, gydag wyth darn o ryddiaith a thri darn o waith llenyddol.

Cafodd y wobr ei sefydlu i annog awduron ifanc i ysgrifennu, ac mae awduron rhyngwladol wedi eu henwebu eleni.

Bydd enw'r awdur buddugol yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd, a bydd yn derbyn £30,000 a cherflun o Dylan Thomas.

Cafodd y wobr ei sefydlu yn 2006, i ddathlu llwyddiant rhyngwladol y bardd a ysgrifennodd lawer o'i waith yn ei ugeiniau.

Mae awduron o Awstralia a Sudan wedi eu cynnwys ar y rhestr hir.

Bydd canmlwyddiant genedigaeth yr awdur yn cael ei ddathlu yn 2014, ac eleni Prifysgol Abertawe, y ddinas lle cafodd Thomas ei eni, sydd yn noddi'r wobr.

'Eclectig'

Dywedodd yr hanesydd Peter Stead, cadeirydd y wobr: "Mae'r rhestr hir eleni yn un eclectig gyda chryn amrywiaeth, gan fynd a ni o ryfel yn Sudan i'r tanau rwygodd drwy British Columbia yn 2003, gan stopio yng nghanol terfysg Johannesburg, tirlun llosg Nevada a gŵyl Hindŵaidd yn Darjeeling ar y ffordd.

"Mae'r wobr yn wahanol i'r un diwethaf bob tro, ond eleni mae'r maint o dalent newydd sydd wedi ei ddarganfod yn rhoi'r teimlad y bydd hwn yn flwyddyn arbennig.

"Dyma fydd y llyfrau y bydd pawb eisiau cael gafael arnynt."

Cafodd y wobr ei sefydlu yn 2006 a dywed y beirniaid ei bod yn arwydd o'r awduron ifanc gorau dros y byd.

Yr enillydd cyntaf oedd Rachel Tresize o'r Rhondda, ac ers hynny mae'r awduron buddugol wedi dod o Vietnam, Belfast a California.