Prosiect newydd i ddod â gwaith Dylan Thomas i blant

  • Cyhoeddwyd
Dylan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Thomas, a fu farw yn 1953, yw un o enwau enwocaf llenyddiaeth Cymru drwy'r byd

I nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014 mae prosiect newydd i gyflwyno byd y bardd o Abertawe i bobl ifanc yn cael ei lawnsio ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Llun.

Amcan y prosiect, Dylanwad, sy'n cael ei gynnal gan Llenyddiaeth Cymru, fydd edrych ar waith Dylan Thomas trwy lygaid newydd sy'n berthnasol i fywydau plant a phobl ifainc.

Bydd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn ac wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis, ymhlith y rhai fydd yn mynychu'r lansiad yn Annedd Wen ar faes yr ŵyl yng Nghilwendeg ar 27 Mai 2013.

Mae nifer o unigolion amlwg wedi rhoi eu cefnogaeth i'r cynllun.

Yn eu plith mae Bethan Gwanas, Philip Pullman, DJ Huw Stephens, Y Bardd Cenedlaethol Gillian Clarke, ac Ed Holden.

Dywedodd Bethan Gwanas: "Braint fydd cael bod yn rhan o'r cyfle i bobl ifanc Cymru fwynhau gwaith y dewin geiriau, Dylan Thomas, ac yna gweld pa hud fedran nhw ei greu eu hunain."

"Rhyddid i ddarllen"

Croesawyd y cyhoeddiad gan Leighton Andrews:

"Dywedodd Dylan Thomas unwaith: 'Roedd fy addysg yn rhoi'r rhyddid i mi ddarllen yn ddiwahân a thrwy'r amser, gyda fy llygaid yn hongian allan'," meddai.

"Pa ffordd well i ddathlu canmlwyddiant un o ffigurau llenyddol mwyaf Cymru na rhaglen addysg sydd ... yn annog cenhedlaeth newydd i ddarllen ei waith.

"Mae llythrennedd yn sgil hanfodol ar gyfer bywyd ac mae'n hynod o bwysig ein bod yn datblygu a mireinio'r sgil hon.

"Rydym yn cefnogi rhaglen Dylanwad gyda £241,200 o gyllid am y rheswm hwnnw.

"Rwy'n dymuno'n dda i'r prosiect ac yn edrych ymlaen at weld y buddion a ddaw yn ei sgîl i bobl ifanc ledled Cymru," dywedodd.

Ymhlith uchafbwyntiau'r prosiect:

  • Bydd Llenyddiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chanolfan Peniarth ac Adran Celf a Dylunio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i greu gweithdai wedi eu selio ar waith Dylan Thomas mewn ysgolion ar draws Cymru yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

  • Bydd Llenyddiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda BBC Cymru a Gwobr Dylan Thomas ar gystadleuaeth ryngwladol fydd yn agored i awduron ifanc rhwng 7-25 oed.

  • Gwahoddir unigolion rhwng 7-25 o bedwar ban y byd i gyflwyno un llinell o farddoniaeth a ysbrydolwyd gan Dylan Thomas i greu 'Cerdd Fawr Dylan', cerdd 100 llinell wedi ei hysgrifennu gan bobl ifainc ar draws y byd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol