Gwaharddiad llawn ar ysmygu gan fwrdd iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro wedi cytuno ar waharddiad llawn ar ysmygu ar eu safleoedd.
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth cafodd y cynnig ei gymeradwyo, a bydd gwaharddiad llawn mewn grym o Hydref 1.
Roedd gwaharddiad eisoes mewn grym oedd yn golygu nad oedd gan staff yr hawl i ysmygu ar safleoedd y bwrdd iechyd.
Mae'r rheol newydd yn golygu na fydd unrhyw ymwelwyr i safleoedd y bwrdd iechyd yn cael ysmygu.
'Cefnogi'
Cyn y cyfarfod, dywedodd Dr Sharon Hopkins, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y bwrdd iechyd, "mae presenoldeb y llochesi hyn a'r amwysedd yn gysylltiedig â gwaharddiad rhannol wedi lleihau effaith yr ymgais i leihau ysmygu".
Dywedodd bod "y mwyafrif o'r cyhoedd a'r cleifion wedi cefnogi'r bwriad ond mae'n fwy anodd i bobl sy'n ysmygu'n drwm".
Dywedodd y bwrdd bod cefnogaeth lawn i'r rheol, ond bod angen monitro'r sefyllfa yn agos.
Bydd y rheol - sy'n cynnwys e-sigarennau - yn effeithio ar gleifion, ymwelwyr, staff a chontractwyr ac yn eu gwahardd rhag ysmygu mewn ysbytai, meysydd parcio, clinigau a chanolfannau iechyd.
Ychwanegodd Dr Hopkins bod gan y bwrdd iechyd gyfrifoldeb i hyrwyddo safon byw iachus, a'r peth pwysicaf y gallai pobl wneud i wella eu hiechyd yw rhoi'r gorau i ysmygu.
"Ysmygu sy'n achosi'r nifer fwyaf o farwolaethau buan a salwch yng Nghymru ac rydym am i'r polisi newydd leihau nifer y bobl sy'n ysmygu", meddai.
Yn ôl Cynllun Gweithredol Llywodraeth Cymru ar Dybaco'r nod yw lleihau nifer y bobl sy'n ysmygu o 16% erbyn 2020.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2013
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2012