Prif Weinidog yn lansio Gwobrau Dewi Sant

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones a Gideon Petersen gyda'r wobrFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones a Gideon Petersen gyda'r wobr

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi agor enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant am y tro cyntaf ddydd Mawrth, mewn seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.

Gall aelodau o'r cyhoedd enwebu pobl sydd, yn eu tyb nhw, yn haeddu cael eu cydnabod am y gwaith eithriadol maent wedi ei wneud dros bobl eraill.

Bydd paneli o feirniaid arbenigol, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Rowe-Beddoe, yn dewis rhestr fer ac yn y pen draw enillydd pob categori. Cyhoeddir y rhestr fer mewn derbyniad mawreddog ar 9 Ionawr 2014.

Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni Gwobrau Dewi Sant ar 13 Mawrth 2014 yng Nghaerdydd.

Yn ystod y digwyddiad ddydd Mawrth fe ddadorchuddiodd y Prif Weinidog Tlws Gwobrau Dewi Sant, a ddyluniwyd yng Nghymru gan y cerflunydd enwog, Gideon Petersen.

Y gair awen yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer y tlws, ac fe fydd yn cael ei greu o ddur meddal ar sylfaen o lechen Gymreig.

Ar ôl i'r tlws gael ei ddadorchuddio, bydd yn cael ei arddangos am bythefnos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, cyn dechrau ar daith o amgylch Cymru.

Mae naw gwobr i gyd a bydd enillwyr cyntaf y wobr yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar 13 Mawrth 2014.

'Pethau anghyffredin'

Wrth ddadorchuddio'r tlws yng Nghaerdydd, dywedodd Mr Jones: "Efallai ein bod ni'n wlad fach, ond mae'n llwyddiannau'n rhai mawr.

"Pan gyhoeddais fy mwriad i gynnal y gwobrau hyn yn gynharach eleni, roeddwn am fedru cydnabod y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan bobl gyffredin Cymru, pobl sy'n gweithio'n ddiflino dros eraill ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd yng Nghymru, heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl.

"Mae'r rhan fwyaf ohonom ni wedi bod yn ddigon ffodus i gyfarfod rhywun fel hyn ar ryw adeg, a dyma'n cyfle i roi rhywbeth yn ôl. Rwy'n annog pobl i lenwi'r ffurflen ac enwebu unrhyw un sy'n haeddu cydnabyddiaeth, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw ddisgleirio."

Gellir enwebu drwy lenwi ffurflen ar-lein neu lawrlwytho templed o wefan arbennig gwobrau Dewi Sant, dolen allanol. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Tachwedd 5, 2013.

Mae Cynghrair y Trethdalwyr wedi cwestiynu'r angen am gyflwyno anrhydedd newydd tra bod cyrff cyhoeddus yn gwneud toriadau.