Cynllun gwobrwyo 'Dydd Gŵyl Dewi'
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau wedi eu cyhoeddi i greu cynllun gwobrwyo 'Dydd Gŵyl Dewi' i gydnabod "pobl gyffredin sy'n gwneud pethau anghyffredin".
Yn ystod dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher ar ddathlu hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, disgrifiodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, gynigion Llywodraeth Cymru i lansio system wobrwyo newydd i ddathlu'r bobl hynny sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd bywyd yng Nghymru.
Gallai'r gwobrwyon cyntaf gael eu cyhoeddi'r flwyddyn nesaf, ond nid yw'n glir faint fydd y gost na chwaith union fanylion y gwobrwyon.
Dywedodd y Ceidwadwyr y "dylai'r gwobrwyon fod yn annibynnol o lywodraeth", tra bod Cynghrair y Trethdalwyr wedi cwestiynu'r angen am gyflwyno anrhydedd newydd tra bod cyrff cyhoeddus yn gwneud toriadau.
Eisoes mae degau o Gymry neu rai â chysylltiadau â Chymru ar Restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn flynyddol ac mae nifer o Gymry yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd yn flynyddol.
'Argraff fawr'
Ond yn ôl y Prif Weinidog: "Yn aml mae hanes rhyfeddol unigolion sy'n gweithio'n galed er lles eraill heb fynnu sylw na cheisio amddiffyn eu buddiannau eu hunain ac sydd wir yn gwneud Cymru'n lle gwell i fyw, yn creu argraff fawr arnaf.
"Yn y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn ailystyried ein ffordd o gydnabod cyfraniadau at fywyd yng Nghymru. Heddiw gallaf gyhoeddi y byddaf yn lansio Gwobrau Dewi Sant o 2014 ymlaen. Bydd y gwobrau hyn yn gyfle i enwebu pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd".
Mae ei swyddogion wrthi'n ceisio nodi pa sectorau i'w cydnabod a'r broses benderfynu ar gyfer dyfarnu'r gwobrau.
Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Y man cychwyn fydd pobl gyffredin sy'n gwneud pethau anghyffredin. Nid wyf am wobrwyo pobl sydd ond yn gwneud eu swyddi, ni waeth pa mor werth chweil a phwysig yw nifer o swyddi.
"Rwyf am gydnabod pobl sy'n gwneud mwy nag sydd angen iddynt ei wneud, ac sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ansawdd bywyd yng Nghymru.
"Rwyf am i'r gwobrau fod ag elfen fusnes gref - mae ein heconomi'n dibynnu ar y sector preifat ac rwyf am i'r agwedd honno gael ei chydnabod yn briodol.
"Rwyf hefyd am gydnabod unigolion sy'n helpu i godi proffil Cymru yn y byd - mae hyn hefyd yn gyfraniad pwerus at ein lles cymdeithasol ac economaidd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2012
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2012