Gwasanaeth i ddathlu bywyd 'Yogi'

  • Cyhoeddwyd
Bryan "Yogi" DaviesFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2009 cyhoeddodd Bryan "Yogi" Davies lyfr am ei hanes er mwyn cynorthwo eraill mewn sefyllfa debyg

Bydd ffigurau blaenllaw o Undeb Rygbi Cymru ymhlith y rhai fydd yn ymgynnull i ddathlu bywyd chwaraewr rygbi a fu farw chwe blynedd wedi iddo dorri ei wddf yn ei gêm olaf i'w glwb.

Bydd llywydd yr undeb Dennis Gethin a'r cadeirydd David Pickering yng nghanol torf o gannoedd y mae disgwyl iddyn nhw roi teyrngedau i Bryan "Yogi" Davies.

Cafodd ei anafu'n ddifrifol yn 2007 yn ei gêm olaf cyn yr oedd i fod i ymddeol o'r gamp.

Bydd y gwasanaeth ym Maes y Gwyniad - cae Clwb Rygbi'r Bala - yn dechrau am 11:00am ddydd Sadwrn.

Bydd angladd preifat yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.

Un arall fydd yno yw Edward Jones, ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, sy'n cefnogi chwaraewyr rygbi sydd wedi'u hanafu a'u teuluoedd.

Gwella adnoddau

Bu farw Mr Davies, 56, a oedd yn cael ei adnabod i'w gyfeillion a'i deulu fel "Yogi", ym mis Awst.

Wedi'r ddamwain yn 2007 treuliodd dros ddwy flynedd yn yr ysbyty cyn i gronfa apêl godi dros £200,000 er mwyn iddo fedru dychwelyd adref.

Yn 2009 cyhoeddodd lyfr - Mewn Deg Eiliad - yn sôn am ei brofiadau er mwyn ceisio cynorthwyo eraill oedd mewn sefyllfa debyg.

Mae tua £10,000 yn weddill yn y gronfa, ac fe fydd yr arian nawr yn cael ei roi tuag at wella adnoddau ar gyfer clwb rygbi ieuenctid y Bala.

Dywedodd cadeirydd y clwb, Tony Parry, bod Mr Davies wedi gwneud cynlluniau ar gyfer estyniad i'r clwb.

Dywedodd: "Roedd o hefyd wedi bod o gwmpas y bobl sy'n byw yn ymyl y cae i egluro'r cynlluniau - y syniad oedd creu cegin newydd ac ystafell i'r ieuenctid fedru eistedd i lawr i fwyta yno.

"Ni yw'r unig glwb yng ngogledd Cymru lle nad oes lle i'r hogiau gael bwyd ar ôl y gêm. Erbyn blwyddyn i nawr gobeithio y bydd hynny wedi newid.

"Mae'r pwyllgor apêl mor ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio mor galed dros y blynyddoedd ac wedi cyfrannu mor hael - yn gyntaf i gael Yogi adref ac wedyn ei alluogi i aros yno."

Mae Mr Davies yn gadael gwraig, mab a merch.