Dymchwel murlun y Siartwyr yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae'n debyg y bydd murlun sy'n cofnodi digwyddiad pwysig yn hanes Casnewydd yn cael ei ddymchwel.
Dywed Cyngor y ddinas y byddai'n costio o leiaf £600,000 i symud y murlun sy'n portreadu hanes y Siartwyr o Sgwâr John Frost.
Mae'r cyngor am wario £100 miliwn er mwyn codi canolfan siopa ar y safle.
Dywedodd llefarydd eu bod yn ystyried y Siartwyr yn rhan bwysig iawn o hanes y ddinas, Cymru a'r Deyrnas Unedig.
"Ond mae'n rhaid ystyried y gost i'r trethdalwyr, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol," meddai.
Cafodd y murlun yn Sgwâr John Frost ei greu yn 1978 gan yr artist Kenneth Budd.
Gwrthryfel
Mae'r mosäig 115 troedfedd (35 metr) yn darlunio gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 1839.
Roedd y Siartwyr yn fudiad radicalaidd oedd am weld mwy o hawliau i weithwyr gan gynnwys yr hawl i bleidleisio.
Credir fod rhwng 10 a 24 o brotestwyr wedi marw yn y gwrthdaro.
Roedd cais wedi ei wneud i Cadw - y corff sy'n gyfrifol am ddiogelu henebion - i roi statws rhestredig i'r murlun, ond cafodd y cais ei wrthod.
Fe wnaeth Cadw gynghori'r sir i gysylltu gyda chwmni peirianyddol er mwyn ceisio adleoli'r murlun.
Comisiynu
"Fe ddaeth yn amlwg y byddai'n costio o leiaf £600,000 ac roedd yna risg gwirioneddol na fyddai'r murlun yn goroesi beth bynnag," meddai'r llefarydd dros Gyngor Casnewydd.
"Rydym hefyd yn cydnabod y byddai cadw'r murlun yn ei safle presennol yn peryglu'r cynllun i ailddatblygu canol y ddinas.
"Tra na fydd yn bosib cadw'r murlun rydym wedi gwneud ymroddiad i gomisiynu cofeb i'r Siartwyr yn y ddinas.
"Byddwn yn ymgynghori gyda phobl Casnewydd er mwyn penderfynu ar y ffordd orau i ddathlu cyfraniad y Siartwyr."
'Meini Prawf'
Dywedodd llefarydd ar ran Cadw na chafodd statws rhestredig ei roi oherwydd nad oedd y murlun "yn cyrraedd y meini prawf o safbwynt ei fod o ddiddordeb archeolegol arbennig.
"Hefyd roedd yna deimlad nad oedd yna gysylltiad uniongyrchol rhwng safle'r murlun a lleoliad gwrthryfel y Siartwyr.
"Mae safle Gwesty'r Westgate wedi ei gofrestru ac yno y gwelwyd y gwrthdaro gwaedlyd rhwng y Siartwyr a'r milwyr.
"Mae Cadw wedi gweithio gyda Cyngor Casnewydd er mwyn ceisio sicrhau dyfodol i'r murlun rhywle arall yn y ddinas.
"Ond yn anffodus mae'r gost yn golygu nad yw hwn yn opsiwn dichonadwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2012